Digwyddiadau
Dangos 80 o 441 digwyddiad.
Amser Lliwio i blant - Llyfrgell Gwersyllt
Sesiynau hwyliog i helpu’ch plentyn i fod yn greadigol a chwrdd â phlant eraill sy’n mwynhau lliwio.
Darperir yr holl ddefnyddiau angenrheidiol (pensiliau lliwio a dalenni papur).
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Grŵp Crefftau Oedolion – Llyfrgell Brynteg
Grŵp misol sy’n gweithio ar brosiect gwahanol bob tro gan ddefnyddio amryw gyfryngau (sesiynau â chymorth).
Os hoffech ymuno â ni rydym yn cyfarfod ar yr ail ddydd Llun o bob mis (3pm – 4pm) – byddai croeso cynnes i chi!
Am ddim.
Amser Stori (Amser Straeon a Rhigymau Cymraeg) - Llyfrgell Coedpoeth
Sesiwn Cymraeg hwyliog, cyfeillgar a rhyngweithiol i rieni/gofalwyr a’u babanod/plant bach.
Gwau a Sgwrsio – Llyfrgell Gwersyllt
Grŵp Dros 60 - Llyfrgell Gwersyllt
Ffordd braf o gwrdd â phobl eraill a chymdeithasu.
Darperir lluniaeth.
Mae’r grŵp yn cwrdd bob dydd Mawrth, 2.15pm – 3pm
Amser Stori a Rhigymau (Saesneg) – Llyfrgell Brynteg
Rhieni/gofalwyr â babanod a phlant bach – dewch draw am sesiwn hwyliog o straeon a rhigymau!
I blant dan 5.
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Bob Dydd Mawrth 2.15pm – 2.45pm
Clwb Lego – Llyfrgell y Waun
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Yn addas i blant 4 – 11 oed.
Clwb Lego – Llyfrgell Coedpoeth
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Addas i blant 4 oed a hŷn
Grŵp Lliwio Meddylgar i Oedolion - Llyfrgell Gwersyllt
Ymunwch â ni am sesiwn tawel o liwio – oedolion yn unig!
Ffordd dda o dawelu’r meddwl a chymdeithasu wrth liwio patrymau a dyluniadau cain.
Darperir yr holl ddefnyddiau angenrheidiol (pensiliau lliwio a dalenni papur).
‘Cylch Ti a Fi’ Grŵp rhieni a babanod/plant bach – Llyfrgell Cefn Mawr
Dewch i gwrdd â rhieni/gwarcheidwaid eraill, cymdeithasu a rhannu profiadau mewn awyrgylch anffurfiol Gymreig wrth i’ch plant fwynhau chwarae â’i gilydd.
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn siarad Cymraeg – mae croeso i bawb yn y Cylch Ti a Fi.