Digwyddiadau
Dangos 10 o 441 digwyddiad.
Cyngerdd Dathlu'r Nadolig | Hosbis Tŷ’r Eos
Rydym wrth ein bodd i ddadorchuddio ein Cyngerdd Dathlu’r Nadolig, digwyddiad nodedig yng nghalendr digwyddiadau Wrecsam. Eleni, rydym yn falch iawn o gynnwys perfformwyr annwyl fel NEW Sinfonia, Côr Meibion y Rhos, ac, yn gwneud eu ymddangosiad cyntaf, Dee Sign Choir.
Llythyrau at Sion Corn - Llyfrgell Wrecsam
Beth am bostio’ch llythyr at Sion Corn o’n blwch post yn Llyfrgell Wrecsam?
Casglwch eich papur ysgrifennu o’r llyfrgell a phostiwch eich llythyr yn ein blwch post Nadolig...yna galwch heibio i weld eich ateb yn ein harddangosfa Nadoligaidd!
Grwpiau Gwau, Crosio a Chrefft - Llyfrgell Cefn Mawr
Mae'r grŵp hwn wedi'i anelu at unrhyw un sy'n mwynhau unrhyw beth crefftus - gweu, gwnïo, brodwaith, gwneud cardiau, crosio, macramé ac ati.
Dewch â'r hyn rydych chi'n gweithio arno neu dewch i eistedd a chael sgwrs gyda chrefftwyr eraill!
Sgwrs Chwaraeon - Llyfrgell Gwersyllt
Oes gennych chi ddiddordeb mewn sbort?
Ymunwch â ni yn Llyfrgell Gwersyllt bob dydd Llun i drafod digwyddiadau chwaraeon y penwythnos dros de a bisgedi.
Croeso i bawb!
Amser Lliwio i blant - Llyfrgell Gwersyllt
Sesiynau hwyliog i helpu’ch plentyn i fod yn greadigol a chwrdd â phlant eraill sy’n mwynhau lliwio.
Darperir yr holl ddefnyddiau angenrheidiol (pensiliau lliwio a dalenni papur).
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Amser Stori (Amser Straeon a Rhigymau Cymraeg) - Llyfrgell Coedpoeth
Sesiwn Cymraeg hwyliog, cyfeillgar a rhyngweithiol i rieni/gofalwyr a’u babanod/plant bach.
Gwau a Sgwrsio – Llyfrgell Gwersyllt
Sioe Teithiol 'dweud eich dweud' - Llai
Clwb llyfrau – Llyfrgell Coedpoeth
Ydych chi wrth eich bodd yn darllen a siarad am lyfrau? Beth am ymuno â’r grŵp yma sy’n union yr un fath?
Ymunwch â ni’r pedwerydd dydd Mawrth o bob mis, 2pm – 3pm.
Amser Stori a Rhigymau (Saesneg) – Llyfrgell Brynteg
Rhieni/gofalwyr â babanod a phlant bach – dewch draw am sesiwn hwyliog o straeon a rhigymau!
I blant dan 5.
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Bob Dydd Mawrth 2.15pm – 2.45pm