Dangos 140 o 441 digwyddiad.

Sgwrs Chwaraeon - Llyfrgell Gwersyllt

Oes gennych chi ddiddordeb mewn sbort?

Ymunwch â ni yn Llyfrgell Gwersyllt bob dydd Llun i drafod digwyddiadau chwaraeon y penwythnos dros de a bisgedi.

Croeso i bawb!

Date: 30 Rhagfyr 2024 14:00 - 15:00
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

Amser Lliwio i blant - Llyfrgell Gwersyllt

Sesiynau hwyliog i helpu’ch plentyn i fod yn greadigol a chwrdd â phlant eraill sy’n mwynhau lliwio.

Darperir yr holl ddefnyddiau angenrheidiol (pensiliau lliwio a dalenni papur). 

Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!

Date: 30 Rhagfyr 2024 15:00 - 16:45
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

Amser Stori (Amser Straeon a Rhigymau Cymraeg) - Llyfrgell Coedpoeth

Sesiwn Cymraeg hwyliog, cyfeillgar a rhyngweithiol i rieni/gofalwyr a’u babanod/plant bach.

Date: 31 Rhagfyr 2024 10:00 - 11:00
Lleoliad
Canolfan Cymunedol Plas Pentwyn

Gwau a Sgwrsio – Llyfrgell Gwersyllt

Grŵp wythnosol lle gallwch gael sgwrs wrth fwrw ymlaen â’ch gwaith gwnïo (neu grosio!)
Date: 31 Rhagfyr 2024 14:00 - 16:00
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

Amser Stori a Rhigymau (Saesneg) – Llyfrgell Brynteg

Rhieni/gofalwyr â babanod a phlant bach – dewch draw am sesiwn hwyliog o straeon a rhigymau!

I blant dan 5.

Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!

Bob Dydd Mawrth 2.15pm – 2.45pm

Date: 31 Rhagfyr 2024 14:15 - 14:45
Lleoliad
Llyfrgell Brynteg

Grŵp Dros 60 - Llyfrgell Gwersyllt

Ffordd braf o gwrdd â phobl eraill a chymdeithasu.

Darperir lluniaeth. 

Mae’r grŵp yn cwrdd bob dydd Mawrth, 2.15pm – 3pm

Date: 31 Rhagfyr 2024 14:15 - 15:00
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

Clwb Lego – Llyfrgell y Waun

Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!

Yn addas i blant 4 – 11 oed.

Date: 31 Rhagfyr 2024 15:00 - 16:00
Lleoliad
Lôn y Capel

Clwb Lego – Llyfrgell Coedpoeth

Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!

Addas i blant 4 oed a hŷn

Date: 31 Rhagfyr 2024 15:30 - 16:30
Lleoliad
Canolfan Cymunedol Plas Pentwyn

Parti Nos Flwyddyn Newydd - Brymbo

Dewch â’r Flwyddyn Newydd i mewn gyda noson yn llawn cerddoriaeth bît Northern Soul, Motown, y 60au, 70au ac ychydig o’r 80au i fesur da.

Raffl ar y noson - £1 y stribed. 

Digwyddiad tocyn yn unig.

Cyflwynir gan brif Dj's Radio:

Date: 31 Rhagfyr 2024 19:00 - 01 Ionawr 2025 01:00
Lleoliad
Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo

Siop Gyfnewid Jig-so – Llyfrgell Brynteg

Dewch draw i gyfnewid eich jig-so o blith detholiad o'r rhai a roddwyd/cyfnewid gan eraill. 

Gofynnwn i chi ddod â phosau cyflawn yn unig!

Ar bob ddydd Mercher cyntaf y mis, 2.30pm - 4.30pm.

Date: 01 Ionawr 2025 14:30 - 16:30
Lleoliad
Llyfrgell Brynteg