Beth yw cartref symudol?
‘Cartref symudol’ (neu ‘Gartref Parc’) yw’r enw cyffredin am gartref preswyl symudol ar safle sydd wedi’i drwyddedu gan yr awdurdod lleol at ddefnydd preswyl, sy’n aml yn cael ei alw’n ‘barc’.
Mae’r rhan fwyaf o breswylwyr yn berchen ar eu cartrefi symudol eu hunain, ac yn eu defnyddio fel eu cartref parhaol, ac maent yn talu ffi am y llain i berchennog y safle. Fodd bynnag, mae rhai preswylwyr yn denantiaid sy’n rhentu eu cartref symudol.
Diffinnir cartref symudol fel strwythur sydd wedi’i fwriadu i fyw ynddo y gellir ei symud o le i le (er enghraifft, drwy gael ei dynnu neu ei gario ar drêlyr neu gerbyd), neu gerbyd a ddyluniwyd neu a addaswyd ar gyfer byw ynddo.
Gall cartrefi symudol amrywio o ran eu maint a’u siâp – mae rhai yn debyg i fyngalos ond mae eraill yn edrych yn debyg i garafannau traddodiadol.
A oes uchafswm maint i gartref symudol?
Uchafswm maint cartref symudol yw 20 metr o hyd (heb far tynnu), 6.8 metr o led a 3.05 metr o uchder y tu mewn. Os ychwanegir portsh neu estyniad, er enghraifft, gall hyn olygu ei fod yn fwy na’r diffiniad cyfreithiol, a gallai gael ei ystyried fel adeilad o dan ddeddfwriaeth arall.
Safonau sy’n ddisgwyliedig ar gyfer amodau safleoedd cartrefi symudol
Rheolau parciau preswyl
Dan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cartrefi Symudol 2013), mae gofyn cadw a chyhoeddi cofrestr ddiweddar o reolau cartrefi mewn parciau.
Mae rheolau safle ar gyfer safleoedd cartrefi symudol preswyl yn sicrhau cydlyniant cymunedol a rheolaeth dda o'r safle, tra'n sicrhau hefyd fod perchnogion cartrefi symudol yn deall y rheolau sy'n berthnasol iddynt hwy yn llwyr.
Mae Llywodraeth Cymru: Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 (dolen gyswllt allanol) yn dweud wrth perchnogion safleoedd sut i wneud, amrywio neu ddileu rheol safle. Mae’r rheoliadau hyn yn amlinellu sut i ymgynghori ar newidiadau arfaethedig, yn cynnig hawliau apelio ac yn gofyn i awdurdodau lleol gadw a chyhoeddi cofrestr o reolau safle ar gyfer safleoedd yn eu hardal.
Gorolwg;
- Pan fydd perchennog safle yn cynnal arolwg o reolau presennol neu'n dymuno gwneud unrhyw reolau newydd, rhaid iddynt ymgynghori'n gyntaf gyda'r holl berchnogion cartrefi symudol ac unrhyw gymdeithas trigolion perthnasol (CTP). Rhaid i'r ymgynghoriad fod yn agored i ymatebion am o leiaf 28 diwrnod. O fewn 21 diwrnod o ddiwedd yr ymgynghoriad, rhaid i berchennog y safle anfon Dogfen Ymateb i'r Ymgynghoriad at yr holl berchnogion cartrefi yn rhoi gwybod iddynt am ganlyniad yr ymgynghoriad a pha reolau safle sydd i'w mabwysiadu.
- Os yw perchennog cartref symudol yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad perchennog y safle i fabwysiadu, dileu neu amrywio rheol safle, rhaid iddynt wneud cais i Dribiwnlys Eiddo Preswyl (TEP), o fewn 21 diwrnod o dderbyn y ddogfen ymateb i'r ymgynghoriad.
- Unwaith y bydd y rheolau newydd wedi'u cytuno, rhaid i berchennog y safle roi’r rheolau safle newydd i’r awdurdod lleol heb fod yn hwyrach na 42 diwrnod wedi cyflwyno'r ddogfen ymateb i'r ymgynghoriad. Os oes apêl wedi'i chyflwyno, ni all perchennog y safle adneuo'r rheolau safle tan y bydd yr apêl wedi'i phenderfynu. Unwaith y bydd yr apêl wedi'i phennu, mae gan berchennog y safle 14 diwrnod i adneuo'r rheolau safle gyda'r awdurdod lleol, oni bai y bydd y tribiwnlys yn pennu fel arall.