Canllawiau am le i ddod o hyd i adnoddau data ac ymchwil am Fwrdeistref Sirol Wrecsam.

Llesiant Cymru: Dangosyddion Cenedlaethol 

Mae Dangosyddion Cenedlaethol Llesiant Cymru yn helpu i ddangos cynnydd Cymru yn erbyn y nodau lles cenedlaethol fel a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (dolen gyswllt allanol).

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam 

Asesiad o Lesiant a Chynllun Llesiant 

Cyhoeddodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam ei asesiad mwyaf diweddar o les ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ym mis Ebrill 2022. Mae’r ddogfen hon yn asesu lles ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam gan ddefnyddio amrywiaeth o ymchwil a dadansoddi. Gall unrhyw un sydd am wybod mwy am les ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ei defnyddio fel adnodd.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Wrecsam wedi datblygu cynllun i wella lles yn ein hardal, ar sail yr asesiad o les.

Cynllun y Cyngor

Mae’r asesiad o les, ynghyd ag amrywiaeth o ddata arall, wedi ein helpu i ddatblygu ein Cynllun y Cyngor (ac mae hefyd yn llywio ein prosesau cynllunio gwasanaeth). 

Mae gwybodaeth am ddata sydd wedi llywio ein Cynllun y Cyngor wedi’i chynnwys isod.

Data perfformiad a hunanasesu

Mae gwybodaeth am ein trefniadau rheoli perfformiad i’w gweld ar ein tudalen rheoli perfformiad

Mae gwybodaeth am ein proses hunanasesu i’w gweld ar ein tudalen llywodraethu a hunanasesu.

Data 

Cyfrifiad 2021

Ystadegau Cyfrifiad ar hunaniaeth rhywedd

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi israddio ystadegau Cyfrifiad 2021 ar hunaniaeth rhywedd o ‘Ystadegau Swyddogol Achrededig’ i ‘Ystadegau Swyddogol yn cael eu Datblygu’.  

Mae hyn oherwydd pryderon y gallai rhai pobl fod wedi gweld y cwestiwn yn ddryslyd ac felly wedi rhoi ymateb nad oedd yn adlewyrchu eu hunaniaeth rhywedd.  Maent hefyd yn nodi bod y mater hwn yn fwy amlwg ymysg unigolion lle nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.  

Mae mwy o wybodaeth ar gael mewn adroddiad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (dolen gyswllt allanol).

StatsCymru sy’n darparu data swyddogol manwl am Gymru. Mae rhai setiau data Cyfrifiad 2021 ar gael ar dudalen Cyfrifiad 2021 StatsCymru (dolen gyswllt allanol) hefyd.

Adnoddau data gan Ddata Cymru

Mae Data Cymru wedi creu Dangosfwrdd Adnoddau Hunanasesu Perfformiad (dolen gyswllt allanol). Mae’r adnodd hwn yn gwasanaethu fel canolbwynt data i awdurdodau lleol, gan ddod a data ynghyd o ffynonellau amrywiol sydd eisoes wedi’u cyhoeddi.  Mae’n darparu mynediad at ddata perfformiad fel y gall awdurdodau unigol asesu a chymharu eu perfformiad ar lefel corfforaethol/sefydliadol.

Mae Data Cymru hefyd wedi datblygu nifer o ddangosfyrddau â data (dolen gyswllt allanol) am Gymru, Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r wardiau yn ein Bwrdeistref Sirol.

Mae’r dangosfyrddau hyn yn cynnwys:

Proffiliau ystadegol ar gyfer gogledd Cymru

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn gweithio i sicrhau iechyd a lles pobl o bob oed yng ngogledd Cymru. 

Mae’r Bwrdd wedi datblygu set o broffiliau ystadegol sy’n darparu gwybodaeth ystadegol am yr amgylchedd cymdeithasol a ffisegol ehangach sy’n gallu effeithio ar iechyd a lles:

Dolenni perthnasol

Ffynonellau data eraill (Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chymru)

Cysylltu â ni

E-bost: statistics@wrexham.gov.uk