Mae’r Hwb Lles wedi ei greu drwy bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (dolen gyswllt allanol) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (dolen gyswllt allanol).
Mae’r Hwb Lles ar gyfer pawb yn Wrecsam, ac mae’n cynnig gwasanaethau a gweithgareddau i hybu eich lles.
Yma maent yn gallu darparu eu gwasanaethau mewn amgylchedd diogel er mwyn:
- gwella mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth
- darparu datrysiadau ataliol ac amgen i ofal a chefnogaeth (gan ymdrin ag iechyd corfforol, iechyd meddwl a lles)
Ardal Gymunedol
Mae ein hardal gymunedol yn cynnwys gofod desg, podiau a gofod hyfforddi agored. Gellir darparu rhaglen o sesiynau galw heibio a gweithgareddau gan wasanaethau lleol sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a chyfleoedd yma.
Mae’r gofod hyfforddi yn cynnwys sgrin gludadwy 33” gyda phyrth USB a HDMI yn addas ar gyfer rhannu sgrin a chyflwyniadau.
Ni chodir tâl ar sefydliadau sy’n dymuno defnyddio ein hardal gymunedol ar gyfer sesiynau galw heibio ac ymgysylltu ar gyfer y cyhoedd, ond fe fydd angen i chi archebu lle ymlaen llaw.
Archebu ystafell / gofod
Mae gennym ni amrywiaeth o ystafelloedd a gofod ar gael i’w harchebu. E-bostiwch wellbeinghub@wrexham.gov.uk os hoffech archebu ystafell neu os oes gennych unrhyw gwestiynau’n ymwneud â’ch archeb.
Ystafelloedd Cyfarfod
Mae gennym ni ddwy ystafell gyfarfod gyda lle i tua 6 o bobl ym mhob un.
Fe ellir archebu’r rhain ar gyfer gweithgareddau i grwpiau llai, cwnsela personol neu ar gyfer cyfarfodydd bach (maent yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau cymunedol, sefydliadau trydydd sector a gwasanaethau iechyd fel lle i siarad gyda chleientiaid er enghraifft).
Ystafelloedd Cymunedol
Mae ein hystafelloedd cymunedol yn fannau y gellir eu harchebu ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd a gweithgareddau. Fe ddaw pob ystafell gydag ystod o gyfleusterau.
Mae yna rannwr ystafell rhwng Ystafelloedd Cymunedol 2 a 3. Gellir agor hwn i greu gofod mwy gyda lle i uchafswm o 48 o bobl.
Ystafelloedd eraill
Offer ychwanegol
Am ffi ychwanegol fe allwn ddarparu siartiau troi, sgrin y gellir ei symud gyda galluoedd hybrid a lluniaeth o de / coffi.
Lleoedd newid / ystafelloedd ymolchi hygyrch
Mae gennym ni ddau le newid / ystafelloedd ymolchi hygyrch mewn mannau cyhoeddus. Mae pob un yn cynnwys bwrdd newid babi, offer codi ar drac nenfwd, cawod gyda gwely cawod y gellir addasu ei uchder, sinciau a thoiledau.
Mae trydydd lle newid wedi ei gysylltu ag ystafell gymunedol 3 sydd hefyd â thoiled ychwanegol sy’n addas i blant bach.
Ffioedd
Cyfraddau gostyngol
Mae cyfraddau gostyngol ar gael i sefydliadau’r trydydd sector, grwpiau cymunedol a gwasanaethau statudol. I gael rhagor o wybodaeth ar hyn e-bostiwch wellbeinghub@wrexham.gov.uk a gofynnwch am siarad gyda Rheolwr yr Hwb Lles. Mae’r cyfraddau gostyngol hyn yn destun adolygiad rheolaidd ac fe allant newid o dro i dro.
Llogi masnachol
Ni chaniateir archebion masnachol o fewn yr hwb ar hyn o bryd, fodd bynnag bydd hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
Cyfnod Llogi
Mae’r prisiau fesul sesiwn sydd hyd at 3 awr, ac eithrio ar gyfer yr ystafell synhwyraidd sy’n 30 munud.
Ystafell | Y nifer mwyaf o bobl y mae lle iddynt yn yr ystafell | Cost fesul sesiwn 2023/24 |
---|---|---|
Ystafell Gyfarfod 1 | 6 | £30 |
Ystafell Gyfarfod 2 | 6 | £30 |
Yr Ystafell Glinigol | 3 | £25 |
Ystafell gymunedol 1 gan gynnwys y gegin | 12 | £35 |
Ystafell gymunedol 2 gan gynnwys y gegin/y gofod y tu allan | 20 | £40 |
Ystafell gymunedol 3 gan gynnwys y bwrdd rhyngweithiol sefydlog | 20 | £40 |
Ystafell gymunedol 2 a 3 | 40 | £60 |
Yr Ystafell Synhwyraidd | 6 | £5 |
Y math o offer neu luniaeth | Cost |
---|---|
Sgrin gludadwy a chamera | £10 |
Y defnydd o gerddoriaeth fyw neu wedi'i recordio | £2 |
Stand siart droi a phapur | £5 |
Te a choffi | £1 |
Lleoliad
31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG
Oriau agor
Dydd Llun: 9am – 4pm
Dydd Mawrth: 9am – 4pm
Dydd Mercher: 9am – 4pm
Dydd Iau: 9am – 4pm
Dydd Gwener: 9am – 2pm
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu i archebu ystafell/gofod.
E-bost: wellbeinghub@wrexham.gov.uk
Rhif ffôn: 01978 298110