Ymgynghoriad ar y cynigion i gynyddu capasiti disgyblion yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru, Y Santes Fair, Brymbo.
Mae’r Ymgynghoriad hwn yn gyfle i’r gymuned leol a’r gymuned yn ehangach i ddysgu am y cynnig i gynyddu capasiti yn barhaol yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Y Santes Fair, Brymbo.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dymuno ceisio safbwyntiau’r partïon â diddordeb mewn perthynas â'r cynnig i gynyddu capasiti disgyblion yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Y Santes Fair, Brymbo. Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn nodi gwybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses yn dilyn canllawiau rheoleiddio fel y nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.
Yn dilyn adborth drwy’r ymgynghoriad cyhoeddus hyd yma a thrafodaethau pellach gyda Chomisiynydd y Gymraeg, rydym wedi adolygu elfennau o ddogfen waith yr asesiad o effaith ar y Gymraeg sy’n sail i’r rhan yma o’r ymgynghoriad.
Mae’r dogfennau diwygiedig ar gael isod. Mae copïau caled ar gael ar gais.
Mae’r cyfnod ymgynghori yn cychwyn ar 23 Hydref 2023 ac mae’n dod i ben ar 12 Ionawr 2024.
Yr Ymgynghoriad
Mae’r Cyngor yn dymuno derbyn barn yr holl rai sy’n debygol o fod â chysylltiad â’r cynnig. Mae'n bwysig y gellir rhoi ystyriaeth i bob safbwynt cyn i benderfyniad gael ei wneud.
Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiwn a rhoi gwybod i ni beth yw’ch barn drwy e-bostio StMarysBrymboConsultation@wrexham.gov.uk.