Ymgynghoriad cynnig i Leihau Niferoedd y Disgybilion sy’n cael eu Derbyn a gyhoeddir yn Wat’s Dyke CP.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i’r gymuned leol a’r gymuned yn ehangach i ddysgu am y cynnig i Leihau Niferoedd y Disgybilion sy’n cael eu Derbyn a gyhoeddir yn Wat’s Dyke CP.
Mae Cyngor Wrecsam yn dymuno ceisio safbwyntiau’r partïon â diddordeb mewn perthynas â'r cynnig i Leihau Niferoedd y Disgybilion sy’n cael eu Derbyn a gyhoeddir yn Wat’s Dyke CP.
Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn nodi gwybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses yn dilyn canllawiau rheoleiddio fel y nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.
Mae’r cyfnod ymgynghori yn cychwyn ar Rhagfyr 2, 2024 ac mae’n dod i ben ar Ionawr 24, 2025.
Yr ymgynghoriad
Mae’r cyngor yn dymuno derbyn barn yr holl rai sy’n debygol o fod â chysylltiad â’r cynnig. Mae'n bwysig y gellir rhoi ystyriaeth i bob safbwynt cyn i benderfyniad gael ei wneud.
Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiwn a rhoi gwybod i ni beth yw’ch barn drwy e-bostio WatsDykeConsultation@wrexham.gov.uk.