Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i'r gymuned leol ac ehangach ddysgu am y cynigion i sefydlu darpariaeth arbenigol newydd o'r enw 'Copa' ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae Cyngor Wrecsam yn ceisio barn partïon â diddordeb ynglŷn â'r cynnig.
Mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi'r wybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses hon yn dilyn canllawiau rheoleiddiol fel y nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.
Mae'r cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 24 Mawrth 2025 ac yn dod i ben ar 11 Mai 2025.
Yr ymgynghoriad
Mae'r cyngor yn ceisio barn pawb sydd â diddordeb posib yn y cynnig. Mae'n bwysig bod yr holl safbwyntiau yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad.
Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau, a rhannu eich barn â ni, drwy e-bostio copaconsultation@wrecsam.gov.uk.