Ymgynghoriad cynnig i Leihau Niferoedd y Disgyblion sy’n cael eu Derbyn a gyhoeddir yn Wat’s Dyke CP.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i’r gymuned leol a’r gymuned yn ehangach i ddysgu am y cynnig i Leihau Niferoedd y Disgyblion sy’n cael eu Derbyn a gyhoeddir yn Wat’s Dyke CP.

Mae Cyngor Wrecsam yn dymuno ceisio safbwyntiau’r partïon â diddordeb mewn perthynas â'r cynnig i Leihau Niferoedd y Disgyblion sy’n cael eu Derbyn a gyhoeddir yn Wat’s Dyke CP.

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn nodi gwybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses yn dilyn canllawiau rheoleiddio fel y nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.

Yr ymgynghoriad

Mae’r cyngor yn dymuno derbyn barn yr holl rai sy’n debygol o fod â chysylltiad â’r cynnig.  Mae'n bwysig y gellir rhoi ystyriaeth i bob safbwynt cyn i benderfyniad gael ei wneud.

Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiwn a rhoi gwybod i ni beth yw’ch barn drwy e-bostio WatsDykeConsultation@wrexham.gov.uk.

Roedd yr ymgynghoriad hwn ar agor rhwng 2 Rhagfyr 2024 a 24 Ionawr 2025.

Cwestiynau Cyffredin

A yw Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi ei gynnal?

Do, mae copi o’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ar ein tudalen we ymgynghoriad ac ar y dudalen we Eich Llais. Mae copïau caled ar gael ar gais. 

Beth os yw'r niferoedd yn dechrau codi eto? Sut byddwn ni’n ateb y galw yn y dyfodol os bydd y niferoedd yn codi?

Mae NDCau ysgolion Wrecsam yn cael eu monitro’n agos a'u hadolygu'n rheolaidd. 

Gyda llawer iawn o dai yn dod i Wrecsam o bosib, ble fydd y disgyblion yn mynd?

Yn Wrecsam rydyn ni’n mabwysiadu polisi o ddewis rhieni, mae gan deuluoedd i wneud cais am unrhyw ysgol yn y Fwrdeistref Sirol. Cedwir at y Cod Derbyn i Ysgolion.

Pwy sy'n gwneud y penderfyniadau hyn yng nghyngor Wrecsam?

Mae'r Awdurdod Lleol yn monitro ac yn adolygu Niferoedd Derbyn Cyhoeddedig yn ei ysgolion yn rheolaidd. Yn yr achos hwn, cysylltodd y tri chorff llywodraethu â'r Awdurdod Lleol i leihau eu NDCau. Mae'r tîm Addysg ac Ymyrraeth Gynnar wedi ysgrifennu'r adroddiad ymgynghori. Bydd adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol. Y Bwrdd Gweithredol yw'r corff sy'n gwneud penderfyniadau pan fydd unrhyw newidiadau i drefniadaeth ysgolion yn cael eu hystyried.

Beth os yw'r niferoedd yn dechrau codi eto? Sut byddwn ni’n ateb y galw yn y dyfodol os bydd y niferoedd yn codi?

Mae Niferoedd Derbyn Cyhoeddedig yn ysgolion Wrecsam yn cael eu monitro'n agos a'u hadolygu'n rheolaidd gan yr Awdurdod Lleol.

Gyda nifer fawr o dai newydd o bosib yn cael eu hadeiladu yn Wrecsam, ble fydd y disgyblion yn mynd?

Yn Wrecsam, ein polisi yw rhoi’r dewis i rieni. Mae gan deuluoedd yr hawl i wneud cais am unrhyw ysgol yn y Fwrdeistref Sirol yn unol â Pholisi Derbyniadau Ysgol Wrecsam.  

Sut mae lleihau'r NDC mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn helpu i gefnogi'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA)?

Mae'r cynnig hwn yn cefnogi twf cynaliadwy addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â dyheadau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) y Cyngor a strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Dangosodd ganlyniadau ein Hasesiad o’r Effaith ar y Gymraeg fod cynnig i leihau lleoedd disgyblion mewn tair o'n hysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn annhebygol o arwain at unrhyw effaith negyddol sylweddol ar y Gymraeg neu ar addysg cyfrwng Cymraeg.