Ymgynghoriad cynnig i Leihau Niferoedd y Disgyblion sy’n cael eu Derbyn a gyhoeddir yn Acton CP.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i’r gymuned leol a’r gymuned yn ehangach i ddysgu am y cynnig i Leihau Niferoedd y Disgyblion sy’n cael eu Derbyn a gyhoeddir yn Acton CP.

Mae Cyngor Wrecsam yn dymuno ceisio safbwyntiau’r partïon â diddordeb mewn perthynas â'r cynnig i Leihau Niferoedd y Disgyblion sy’n cael eu Derbyn a gyhoeddir yn Acton CP. Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn nodi gwybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses yn dilyn canllawiau rheoleiddio fel y nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.

Yr ymgynghoriad

Mae’r cyngor yn dymuno derbyn barn yr holl rai sy’n debygol o fod â chysylltiad â’r cynnig.  Mae'n bwysig y gellir rhoi ystyriaeth i bob safbwynt cyn i benderfyniad gael ei wneud.

Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiwn a rhoi gwybod i ni beth yw’ch barn drwy e-bostio ActonPrimarySchoolConsultation@wrexham.gov.uk.

Roedd yr ymgynghoriad hwn ar agor rhwng 2 Rhagfyr 2024 a 24 Ionawr 2025.

Cwestiynau Cyffredin

A yw Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi ei gynnal?

Do, mae copi o’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ar ein tudalen we ymgynghoriad ac ar y dudalen we Eich Llais. Mae copïau caled ar gael ar gais. 

Beth os yw'r niferoedd yn dechrau codi eto? Sut byddwn ni’n ateb y galw yn y dyfodol os bydd y niferoedd yn codi?

Mae NDCau ysgolion Wrecsam yn cael eu monitro’n agos a'u hadolygu'n rheolaidd. 

Gyda llawer iawn o dai yn dod i Wrecsam o bosib, ble fydd y disgyblion yn mynd?

Yn Wrecsam rydyn ni’n mabwysiadu polisi o ddewis rhieni, mae gan deuluoedd i wneud cais am unrhyw ysgol yn y Fwrdeistref Sirol. Cedwir at y Cod Derbyn i Ysgolion. 

Ydy'r plant yn cael y gefnogaeth gywir? Os oes llai o blant mae hynny’n golygu llai o staff.

Os yw'r cynnig yn cael ei weithredu, mae’r Cyngor o’r farn y byddai'r ysgol yn parhau i gynnal safonau ac ansawdd yr addysg bresennol i'r plant. Mae'r cynnig hwn yn ceisio adeiladu ar y safon bresennol gyda'r bwriad o gryfhau a gwella'r ddarpariaeth addysgol ar gyfer y plant, gan arwain at fwy o ymgysylltiad a mwynhad i ddisgyblion wrth ddysgu ac effaith gadarnhaol ar les disgyblion.

Mae'r ysgol yn sicrhau profiadau addysgu a dysgu cadarnhaol a darperir amgylchedd meithringar o ofal, cymorth ac arweiniad i'r disgyblion sy'n mynychu YGS Acton.

Cwestiwn posib am enw ysgol Acton? Parc Acton neu Acton yn unig?

Enw swyddogol yr ysgol yw Ysgol Gynradd Sirol Parc Acton.

A allai'r Nifer Derbyn Cyhoeddedig gael ei leihau tipyn bach yn Acton, yn hytrach nag o 60 i 30?

Mae NDC o 30 yn caniatáu i ysgol drefnu myfyrwyr i mewn i strwythurau dosbarth clir wedi’u dosbarthu’n gyfartal. Mae hyn hefyd yn cydymffurfio â rheoliadau maint dosbarthiadau babanod. Bydd lleihau'r NDC i 30 yn gwneud cynllunio a rheoli'r ysgol yn fwy effeithiol ac yn lleihau nifer y lleoedd gwag. Bydd adnoddau'n cael eu defnyddio mewn ffordd a fydd yn gwella ansawdd addysg i bob dysgwr.

Beth os yw'r niferoedd yn dechrau codi eto? Sut byddwn ni’n ateb y galw yn y dyfodol os bydd y niferoedd yn codi?

Mae Niferoedd Derbyn Cyhoeddedig yn ysgolion Wrecsam yn cael eu monitro'n agos a'u hadolygu'n rheolaidd gan yr Awdurdod Lleol. 

Gyda nifer fawr o dai newydd o bosib yn cael eu hadeiladu yn Wrecsam, ble fydd y disgyblion yn mynd?

Yn Wrecsam, ein polisi yw rhoi’r dewis i rieni. Mae gan deuluoedd yr hawl i wneud cais am unrhyw ysgol yn y Fwrdeistref Sirol yn unol â Pholisi Derbyniadau Ysgol Wrecsam.  

Sut mae lleihau'r NDC mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn helpu i gefnogi'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA)?

Mae'r cynnig hwn yn cefnogi twf cynaliadwy addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â dyheadau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) y Cyngor a strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Dangosodd ganlyniadau ein Hasesiad o’r Effaith ar y Gymraeg fod cynnig i leihau lleoedd disgyblion mewn tair o'n hysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn annhebygol o arwain at unrhyw effaith negyddol sylweddol ar y Gymraeg neu ar addysg cyfrwng Cymraeg. 

Ydy'r plant yn cael y gefnogaeth gywir? Os oes llai o blant mae hynny’n golygu llai o staff.

Os yw'r cynnig yn cael ei weithredu, mae’r Cyngor o’r farn y byddai'r ysgol yn parhau i gynnal safonau ac ansawdd yr addysg bresennol i'r plant. Mae'r cynnig hwn yn ceisio adeiladu ar y safon bresennol gyda'r bwriad o gryfhau a gwella'r ddarpariaeth addysgol ar gyfer y plant, gan arwain at fwy o ymgysylltiad a mwynhad i ddisgyblion wrth ddysgu ac effaith gadarnhaol ar les disgyblion. 

Mae'r ysgol yn sicrhau bod profiadau addysgu a dysgu cadarnhaol ac amgylchedd meithringar o ofal, cymorth ac arweiniad yn cael eu darparu i'r disgyblion sy'n mynychu YGS Acton.

Pwy sy'n gwneud y penderfyniadau hyn yng nghyngor Wrecsam?

Mae'r Awdurdod Lleol yn monitro ac yn adolygu Niferoedd Derbyn Cyhoeddedig yn ei ysgolion yn rheolaidd. Yn yr achos hwn, cysylltodd y tri chorff llywodraethu â'r Awdurdod Lleol i leihau eu NDCau. Mae'r tîm Addysg ac Ymyrraeth Gynnar wedi ysgrifennu'r adroddiad ymgynghori. Bydd adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol. Y Bwrdd Gweithredol yw'r corff sy'n gwneud penderfyniadau pan fydd unrhyw newidiadau i drefniadaeth ysgolion yn cael eu hystyried.