Ar 7 Mai 2024, newidiodd y gyfraith fel nad oes gan ddinasyddion yr UE hawl awtomatig bellach i gofrestru i bleidleisio neu sefyll fel ymgeisydd mewn rhai etholiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yng Nghymru, mae’r newid hwn (rhan o Ddeddf Etholiadau Llywodraeth y DU 2022) yn dileu hawliau rhai o ddinasyddion yr UE i bleidleisio a sefyll mewn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch os ydych yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon neu wledydd y Gymanwlad, ond gallai olygu newid os ydych yn ddinesydd mewn gwlad arall yn yr UE.

Fel rhan o’r newidiadau, mae’n ofynnol i dîm etholiadau Cyngor Wrecsam wirio a yw pob dinesydd yr UE yn y fwrdeistref sirol yn gymwys i gofrestru a byddant yn cysylltu â chi i gadarnhau eich bod yn gymwys neu i ofyn am fwy o wybodaeth.  Gallai hyn gynnwys gwybodaeth i’w helpu i gadarnhau eich statws mewnfudo.

Pa ddinasyddion yr UE, sy’n byw yng Nghymru, sy’n gallu pleidleisio yn etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd?

  • Dinasyddion Denmarc, Lwcsembwrg, Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Sbaen sydd â hawl, neu nad oes angen hawl, i ddod i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu i aros yno. 
  • Dinasyddion unrhyw wlad arall yn y DU oedd â hawl, neu nad oedd angen hawl ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny, i ddod i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu i aros yno, a bod hyn wedi parhau heb doriad. 
  • Os oes gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE, ac eithrio os gwnaethoch ymgeisio fel aelod teulu sy’n ymuno, rydych yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
  • Os oeddech ar 31 Rhagfyr 2020 neu gynt yn breswylydd yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw a bod hyn wedi parhau heb doriad, rydych yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
  • Os oeddech ar 31 Rhagfyr 2020 neu gynt yn breswylydd yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, ond nad oedd arnoch angen hawl i ddod i mewn neu aros oherwydd eich bod wedi eithrio o reoliadau mewnfudo, a bod hyn wedi parhau heb doriad, rydych yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

* Mae hawl i ddod i mewn i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu i aros yno yn golygu bod gennych statws mewnfudo cyfreithiol. 

Os oes gennych gwestiynau penodol am eich cofrestriad etholiadol, gallwch gysylltu â thîm etholiadol Cyngor Wrecsam ar electoral@wrexham.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut gallai’r newidiadau hyn effeithio arnoch chi ar dudalen Newidiadau ar gyfer dinasyddion yr UE ar wefan y Comisiwn Etholiadol.