Tudalen we ar wefan Cyngor Bro Morgannwg yw’r Pasbort Iaith.
Mae’n darparu gwybodaeth am swyddi y gellir eu gwneud gydag ychydig o Saesneg, lle gallwch ddatblygu eich sgiliau iaith wrth i chi weithio. Mae’n rhoi rhai geiriau ac ymadroddion allweddol sy’n ymwneud â’r swydd hefyd.
Mae prosiect y Pasbort Iaith mewn ‘cyfnod peilot’ ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu nad yw wedi’i ddatblygu’n llawn eto ac efallai bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hychwanegu’n ddiweddarach os yw’n ddefnyddiol.
Ar gyfer y cyfnod peilot, mae gwybodaeth am ddwy fath o swydd: cynorthwy-ydd manwerthu a gweithiwr cadw tŷ mewn gwesty.
Ar gyfer y cyfnod peilot, darperir gwybodaeth yn Gymraeg, Saesneg, Wcreineg, Pashto, Dari ac Arabeg.