Rydym yn gweithio i ddarparu cyfleoedd i gynyddu’r nifer o blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff.
Gwnawn hyn drwy hyrwyddo a chefnogi darpariaeth adnoddau sy’n cael eu tanategu gan ‘lythrennedd corfforol’.
Ysgolion Egnïol
Ysgolion Cynradd
Mae Wrecsam Egnïol yn cefnogi ysgolion cynradd drwy ddarparu adnoddau hwyliog ac ymgysylltiol sy’n cael eu tanategu gan lythrennedd corfforol.
Drwy greu cyfleoedd cynhwysol, rydym yn bwriadu agor drysau i brofiadau newydd a gwahanol sy’n gadarnhaol mewn perthynas â chwaraeon neu ymarfer corff i sicrhau bod disgyblion Wrecsam yn egnïol ac yn iach.
Fel rhan o’r gwaith i ddatblygu’r sgiliau hanfodol, rydym yn cefnogi ysgolion gyda gweithrediad Llwyfan AG Go Iawn gan Create Development.
Mae’r llwyfan yn galluogi ysgolion cynradd i drawsnewid profiadau AG ar gyfer plant, athrawon a theulu.
Mae’n darparu cynlluniau gwaith AG cynradd, syml i’w dilyn, gyda chynlluniau dysgu a chefnogaeth ar gyfer ymarferwyr i roi hyder a sgiliau iddynt ddarparu AG ardderchog.
Ysgolion Uwchradd
Fel rhan o’n gwaith i helpu disgyblion uwchradd yn Wrecsam i fyw bywydau hapus ac iach, rydym yn bwriadu hyrwyddo’r rôl allweddol mae ymarfer corff yn chwarae ar les - yn gorfforol ac yn feddyliol.
Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion i ddarparu adnoddau wedi’u targedu at ddisgyblion sy’n wynebu rhwystrau i gymryd rhan, yn ogystal ag ysbrydoli disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgarwch rheolaidd.
Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid mewnol ac allanol i adnabod unigolion a grwpiau o fewn y sector uwchradd a darparu darpariaethau ymgysylltiol o safon sy’n anelu at gael disgyblion ‘wedi gwirioni ar chwaraeon’.
Mae gennym ystod eang o weithgareddau a chyfleoedd ar gael wrth i ni geisio cynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan, a mwynhad gweithgareddau corfforol yn yr ysgol, wrth agor drysau i’r cyfleoedd sydd ar gael yng nghymuned ehangach Wrecsam.
Os hoffech chi wybodaeth ar y cyfleoedd sydd ar gael yn ysgol eich plentyn, cysylltwch â ni.
Ebost: activewrexham@wrexham.gov.uk.
Llythrennedd Corfforol
Mae’r cloc yn tician. Rydym eisiau i blant fod yn hapus, yn iach ac yn hyderus, nawr ac yn eu dyfodol.
Ond heb y sgiliau, yr hyder a’r symbyliad iawn i fod yn weithgar yn gorfforol, mae’r tebygolrwydd o hyn yn digwydd llawer llai.
A dyna pam hoffem i bob plentyn fod yn llythrennog yn gorfforol - mae hyn cyn bwysiced â darllen ac ysgrifennu i ddyfodol person ifanc.
Mae’n golygu y bydd plentyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff drwy gydol eu bywyd, gan ganiatáu iddynt gadw’n iach, ond hefyd gan ddarparu llawer o fuddion a chyfleoedd eraill.
I helpu ein plant fod yn fwy llythrennog yn gorfforol, mae angen i ni weithredu rŵan. Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae i helpu plant ganfod beth allan wneud, cyn iddynt roi’r gorau iddi.
Beth yw llythrennedd corfforol?
Mae llythrennedd corfforol yn golygu fod gan berson gatalog o sgiliau technegol ynghyd â’r hyder a’r ysgogiad i gymryd rhan mewn nifer o chwaraeon gwahanol a gweithgareddau corfforol ar bob cam o’u bywyd.
Mae’n rhoi’r pŵer iddynt ddewis i fod yn gorfforol egnïol ym mha bynnag ffordd yr hoffant, gan ddileu’r ofn o ‘roi cynnig arni’ neu ddiffyg ysgogiad y gall nifer ohonom ddioddef ohono.
Mae pedair elfen sy’n arwain at berson yn dod yn llythrennog yn gorfforol:
Sgiliau corfforol + hyder + ysgogiad = llawer o gyfleoedd = llythrennedd corfforol
Sgiliau corfforol
Pan mae plentyn yn dysgu i ddarllen, maent yn dechrau drwy ddysgu geiriau megis ‘cath’ ‘eistedd’ a ‘mat’.
Yn debyg i hynny, wrth i blant ddysgu sgiliau corfforol maent yn dysgu sgiliau megis sut i redeg, neidio, taflu a chydbwyso.
Yna mae plant yn cyfuno geiriau i greu brawddegau, a’u darllen. Yn yr un ffordd, mae sgiliau corfforol yn cael eu cysylltu i greu brawddegau symudiad, ac i berfformio gweithgareddau megis reidio beic, nofio neu naid driphlyg.
Hyder + ysgogiad
Mae datblygu’r sgiliau cywir i’w caniatáu i geisio unrhyw beth mewn amgylchedd diogel yn golygu y bydd plentyn y tyfu i fwynhau chwaraeon ac ymarfer corff.
Bydd y profiadau cadarnhaol hyn yn caniatáu i blentyn fagu ysgogiad cynhenid, ynghyd â hyder yn eu gallu, i eisiau bod yn weithgar yn gorfforol am byth.
Byddant yn datblygu i fod yn oedolyn sydd â’r sgiliau angenrheidiol i gymryd rhan mewn, a mwynhau chwaraeon ac ymarfer corff drwy gydol eu bywydau, ar ba bynnag lefel maent yn ddewis.
Y pethau pwysig ydi bod plentyn yn agored i brofiadau cadarnhaol, hwyliog a diogel, gan ddal eu hysgogiad naturiol pan maent yn ifanc - pan fyddant yn fwy tebygol o geisio unrhyw beth!
Llawer o gyfleoedd
Yn olaf, mae ymarfer yn rhoi hyder, ac i fod yn llythrennog yn gorfforol, mae angen i blentyn gael digon o gyfleoedd i ymarfer sgiliau ac atgyfnerthu eu profiad cadarnhaol.
Mae gan bawb - teulu, athrawon, gweithwyr chwarae, gweithwyr iechyd proffesiynol, hyfforddwyr, cyrff llywodraethu chwaraeon ac arweinwyr ifanc - rhan i’w chwarae i helpu plentyn fod yn llythrennog yn gorfforol.
Gellir cynnig cyfleoedd i gefnogi’r datblygiad hwn gydag adnoddau megis Chwarae i Ddysgu a Dragon Multi-skills and Sport gartref, yn yr ysgol neu yn y gymuned.
Am ragor o wybodaeth ar lythrennedd corfforol a sut gallwn gefnogi eich clwb neu ysgol i ddatblygu a chynnig darpariaethau i arwain ar lythrennedd corfforol, cysylltwch â ni.
Ebost: activewrexham@wrexham.gov.uk
Llwybr Gwirfoddolwr
Arweinydd Chwaraeon
Cyflwyniad i wobr arweinyddiaeth, a ddyluniwyd gan Arweinwyr Chwaraeon. Mae hyn am ddim, ac fe roddir pecyn llawn gweithgareddau a heriau i ysgolion i gyfeirio atynt unwaith mae’r hyfforddiant ar ben.
Mewn sesiwn dair awr, bydd y disgyblion yn dysgu am y sgiliau sy’n bwysig mewn arweinyddiaeth, drwy gymysgedd o weithgareddau hwyliog, ymarferol a theori.
Mae’r wobr yn cynnwys y canlynol:
- Sgiliau pwysig i’w meddu fel arweinydd.
- Sut i osod ardal weithio sy’n ddiogel ar gyfer ei defnyddio i gynnal gweithgareddau.
- Sut i ddefnyddio offer wrth gynnal gweithgareddau.
- Pwysigrwydd gwahanol ddulliau o gyfathrebu.
Bydd Arweinwyr Chwaraeon yn cefnogi darpariaeth ymarfer corff ar y cwricwlwm ac allgyrsiol yn eu hysgol, a dyma’r cam cyntaf ar ein llwybr i wirfoddoli.
Arweinwyr Chwaraeon
Mae cymhwyster Arweinwyr Chwaraeon Lefel 2 yn y maes Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol yn rhan o adran ysgolion uwchradd, llwybr gwirfoddolwr Wrecsam Egnïol mewn addysg.
Mae’r cymhwyster yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth gydag ysgolion uwchradd Wrecsam bob blwyddyn, ac mae’r Arweinwyr Chwaraeon yn dod yn rhan hollbwysig o weithrediad rhaglen Pobl Ifanc Egnïol mewn ysgolion uwchradd.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys:
- Fframwaith arweinyddiaeth parod, hawdd i’w ddarparu, sy’n galluogi disgyblion i ddarparu sesiynau chwaraeon ac ymarfer corff â strwythur, sy’n gynhwysol.
- Trafod pynciau arweinyddiaeth pwysig megis “Beth sy’n gwneud arweinydd da?”, “Sut i weithion effeithiol mewn tîm” a “Sut i fod yn arweinydd da”.
- Mae sesiynau’n cynnwys cymysgedd o drafodaethau, archwilio ac addysg ymarferol, sy’n cael ei ddarparu trwy adnoddau PowerPoint rhwydd eu defnyddio.
- Cynnydd i hyder cymdeithasol ac academaidd ymysg myfyrwyr.
- Myfyrwyr y gellir eu cyflogi oherwydd cynnydd i sgiliau a CV gwell.
- Cyfleoedd ar gyfer addysg a datblygiad ymysg cyfoedion.
Rhaglen Llysgenhadon Ifanc
Mae Chwaraeon Cymru a rhaglen Mae’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid yn anelu at rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i fod yn arweinwyr trwy chwaraeon, i helpu i annog eu cyfoedion anweithgar i wirioni ar chwaraeon.
Mae Llysgenhadon Ifanc yn weithgar o fewn adrannau addysg a chymuned Llwybr Gwirfoddolwr Wrecsam Egnïol, gan gyflawni’r rolau canlynol:
- Cefnogi swyddogion Gweithgareddau i Bobl Ifanc yn yr ysgol gyda rheoli a datblygu sesiynau.
- Cefnogi darpariaeth sesiynau chwaraeon ac ymarfer corff o fewn y gymuned leol.
- Trefnu a darparu gwyliau a thwrnameintiau.
- Hyrwyddo chwaraeon cymunedol a chenedlaethol mewn ysgolion.
- Hyrwyddo’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn Wrecsam.
- Gweithio gyda’r Cydlynydd Hyfforddi a Gwirfoddoli i helpu gyda threfnu cynadleddau i ddod â’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc ynghyd yn Wrecsam.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Cydlynydd Hyfforddi a Gwirfoddoli.