Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn gynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r cynllun yn gweithredu ymhob maes yng Nghymru i safoni cyfleoedd atgyfeirio ar gyfer ymarfer corff.

Mae’r Cynllun yn ymyrraeth iechyd ar sail tystiolaeth sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol a newid ymddygiad, ac yn helpu cleientiaid i wneud a chynnal dewisiadau ffordd o fyw iachach fydd yn gwella eu lles.  

Mae’n darparu mynediad i weithgareddau corfforol wedi’u teilwra a’u goruchwylio, sydd llawn hwyl, yn werthfawr, ac y gellir eu hymgorffori i fywyd bob dydd.

Sut ydw i’n cael mynediad at y cynllun?

Bydd angen i chi gael eich hatgyfeirio gan weithiwr iechyd proffesiynol (eich Meddyg Teulu, nyrs practis neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol megis nyrs arbenigol neu ffisiotherapydd fel arfer). 

Mae’r cynllun wedi’i anelu at bobl dros 16 sy’n anweithgar, gyda - neu mewn perygl o ddatblygu - cyflwr meddygol cronig.

Beth mae’r cynllun yn ei gynnwys?

Mae’r cynllun yn para rhwng 4 a 32 wythnos, yn dibynnu ar y rheswm dros atgyfeirio.  

Bydd pob sesiwn yn para oddeutu awr, a bydd y gweithgaredd yn amrywio o weithgareddau dan do, megis y gampfa, ymarfer cylchol, Tai Chi neu ymarfer yn y pwll nofio, i ystod o weithgareddau awyr agored megis beicio, cerdded nordig a phêl-droed cerdded.

Lle mae’r cynllun yn cael ei ddarparu?

Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu mewn gwahanol ganolfannau hamdden, megis Byd Dŵr Wrecsam, Canolfan Hamdden Plas Madog, Canolfan Chwaraeon Gwyn Evans yng Ngwersyllt, Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun a Stadiwm Queensway, yn ogystal â rhai canolfannau cymunedol ledled y sir. 

Caiff ei ddarparu hefyd mewn lleoliadau awyr agored amrywiol gan gynnwys Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Parc Gwledig Tŷ Mawr, Parc Gwledig Bonc yr Hafod a Dyfrbont Pontcysyllte a Basn Trefor.

Llwybrau sy’n benodol i gyflwr

Mae Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn cynnwys rhaglenni ymarfer corff ar gyfer cyflyrau meddygol penodol.

  • Ymarfer corff ar ôl strôc.
  • Adsefydlu cardiaidd.
  • Rheoli pwysau a diabetes.
  • Gofal cefn.
  • Atal codymau.
  • Adsefydlu ysgyfeiniol.
  • Iechyd meddwl.

Rydym yn eich cynghori i drafod elfennau hyn y cynllun gyda’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Beth yw'r manteision?

Mae buddion corfforol yn cynnwys:

  • Gwella ffitrwydd cardiofasgwlaidd.
  • Gwella cryfder y cyhyrau.
  • Cymalau cryfach.
  • Oedi osteoporosis.
  • Lleihau lefel braster y corff a gordewdra.
  • Efallai bydd lefelau ymlacio a chwsg yn gwella.
  • Gallu cynnal gweithgareddau bywyd bob dydd yn well.
  • Teimlo’n fwy effro ac egnïol.
  • Cynnal ystum corff da.
  • Helpu gyda sefydlogi pwysedd gwaed.
  • Lleihau’r risg o ddatblygu diabetes.
  • Lleihau’r risg o gael clot gwaed.
  • Helpu i gynnal annibyniaeth yn hytrach na dod yn ddibynnol.

Buddion seicolegol

Dyma rai sylwadau y mae pobl wedi eu gwneud am fuddion seicolegol;

  • “Rydw i’n teimlo’n llai pryderus a llai o straen.” 
  • “Mae fy hyder a fy hunan-barch yn well.” 
  • “Mae bod yn fwy egnïol wedi fy helpu i roi’r gorau i ysmygu.” 
  • “Rhoddodd y sesiynau gweithgareddau amser i fi fy hun.” 
  • “Mae fy ngwraig yn dweud fy mod yn edrych yn hapusach.” 
  • “Fe wnes i gymryd fwy o gyfrifoldeb dros fy iechyd fy hun.”

Dyma rai sylwadau y mae pobl wedi eu gwneud am fuddion cymdeithasol;

  • “Roedd yn gyfle da i gwrdd â phobl a oedd gan yr un pryderon â mi.” 
  • “Fe wnaeth y sesiynau fy ngorfodi allan o’r tŷ a rhoi diddordeb newydd i mi.” 
  • “Fe wnes i ffrindiau newydd a mwynhau’r sgyrsiau a gawsom.” 
  • “Rydw i’n teimlo’n fwy ffit, a gallaf chwarae gyda fy wyrion am hirach.”