Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.

Sut i roi gwybod am doriadau pŵer

Ffoniwch 105 i roi gwybod am unrhyw broblemau’n ymwneud â thoriadau pŵer. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim, a bydd yn eich rhoi chi drwodd i'ch gweithredwr rhwydwaith lleol am help a chefnogaeth.

Materion brys eraill

Gwiriwch sut i roi gwybod am lifogydd yn dibynnu ar ffynhonnell y dŵr.

Gallwch roi gwybod i ni am unrhyw faterion brys eraill (difrod storm neu goed wedi cwympo er enghraifft) ar y rhifau canlynol:

  • Pob preswylydd: 01978 298989
  • Atgyweiriadau tai ar gyfer preswylwyr tai cyngor: 01978 298993

Mae'r llinellau ffôn hyn ar agor 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos. 

Os ydych chi'n breswylydd tŷ cyngor gallwch chi hefyd anfon neges e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk (y tu allan i oriau yn unig).

Rhowch wybod am faterion llai brys ar-lein

Ffoniwch ni os yw’n fater brys yn unig – ar gyfer materion eraill, helpwch ni trwy roi gwybod am faterion ar-lein:

Diweddariadau