Crynodeb o’r drwydded
Os ydych yn gweithredu maes chwaraeon yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban, sy’n dal mwy na 10,000 o gefnogwyr, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi gael tystysgrif diogelwch.
Gall tystysgrif diogelwch fod yn un ai:
- tystysgrif diogelwch cyffredinol ar gyfer defnyddio’r eisteddle i wylio gweithgaredd, neu nifer o weithgareddau, wedi’u nodi yn y dystysgrif ar gyfer cyfnod amhenodol sy’n dechrau ar ddyddiad penodol
- tystysgrif diogelwch arbennig ar gyfer defnyddio’r eisteddle i wylio gweithgaredd penodol neu weithgareddau ar achlysur neu achlysuron penodol
Mae’n rhaid i chi gyflwyno cais am dystysgrif i’ch awdurdod lleol.
Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm â thystysgrif.
Mae gwybodaeth am dystysgrif diogelwch eisteddle chwaraeon hefyd ar gael ar y wefan hon.
Meini prawf cymhwyster
Er mwyn bod yn gymwys am dystysgrif diogelwch cyffredinol, mae’n rhaid mai chi yw’r unigolyn â chyfrifoldeb dros reoli’r maes chwaraeon.
Er mwyn bod yn gymwys am dystysgrif diogelwch arbennig, mae’n rhaid mai chi yw’r unigolyn â chyfrifoldeb dros y gweithgaredd y bydd pobl yn ei wylio o’r eisteddle ar yr achlysur hwnnw.