Crynodeb o’r drwydded
Os ydych yn gweithredu maes chwaraeon yng Nghymru lle nad yw’n ofynnol i gael tystysgrif diogelwch ar ei gyfer, bydd yn rhaid i chi gael tystysgrif diogelwch ar gyfer unrhyw eisteddle wedi’i orchuddio sy’n dal 500 neu ragor o gefnogwyr.
Gall tystysgrif diogelwch fod yn un ai:
- tystysgrif diogelwch cyffredinol ar gyfer defnyddio’r maes chwaraeon ar gyfer gweithgaredd, neu weithgareddau, penodol yn ystod cyfnod amhenodol
- tystysgrif diogelwch arbennig ar gyfer defnyddio’r maes chwaraeon ar gyfer gweithgaredd, neu weithgareddau, penodol ar achlysur neu achlysuron penodol
Gall un dystysgrif fod yn berthnasol fwy nag un eisteddle.
Eich awdurdod lleol sy’n darparu’r tystysgrifau diogelwch.
Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw delerau neu amodau sydd ynghlwm â thystysgrif.
Mae gwybodaeth am dystysgrif diogelwch maes chwaraeon hefyd ar gael ar y wefan hon.
Meini prawf cymhwyster
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer tystysgrif diogelwch, mae’n rhaid i chi fod mewn sefyllfa debygol i atal unrhyw achos o dorri telerau ac amodau tystysgrif.