Crynodeb o’r drwydded
Mae’n rhaid i chi gael tystysgrif clybiau gan eich awdurdod lleol i awdurdodi cyflenwi alcohol ac adloniant wedi’i reoleiddio mewn clwb cymwys.
Yn dechnegol, nid yw alcohol yn cael ei fanwerthu mewn clwb cymwys (ac eithrio i westeion) gan fod yr aelod yn berchen ar ran o’r stoc alcohol ac mae’r arian sy’n cael ei gyfnewid ar draws y bar yn fodd o sicrhau cydraddoldeb rhwng aelodau lle gall un yfed mwy na’r llall.
Er mwyn cael eich ystyried yn glwb cymwys, mae’n rhaid i chi hefyd fodloni’r gwahanol ofynion a nodir yn Neddf Drwyddedu 2003.
Meini prawf cymhwysedd
Mae’n rhaid i glybiau fod yn glybiau cymwys. Mae’n rhaid i glwb cymwys fodloni amodau cyffredinol. Y rhain yw:
- ni all unrhyw unigolyn dderbyn breintiau aelodaeth neu freintiau ymgeisydd am aelodaeth heb fwlch o ddeuddydd o leiaf rhwng cyflwyno cais am aelodaeth neu enwebiad a chaniatáu’r aelodaeth
- bod rheolau’r clwb yn datgan na all y rhai sy’n dod yn aelodau heb gael eu henwebu neu heb gyflwyno cais dderbyn breintiau aelodaeth am o leiaf deuddydd rhwng dod yn aelod a chael mynediad i’r clwb
- bod y clwb wedi’i sefydlu ac yn cael ei gynnal mewn ffydd
- bod gan y clwb o leiaf 25 aelod
- bod alcohol yn cael ei gyflenwi i aelodau ar y safle yn unig ar ran neu gan y clwb
Mae’n rhaid cydymffurfio ag amodau ychwanegol mewn perthynas â chyflenwi alcohol. Yr amodau hyn yw:
- bod alcohol sy’n cael ei brynu ar gyfer y clwb a’i gyflenwi ganddo gan aelodau o’r clwb sydd dros 18 oed ac maent wedi’u hethol i wneud hynny gan yr aelodau
- nad oes unrhyw unigolyn yn derbyn comisiwn, canran neu daliad tebyg ar draul y clwb mewn perthynas â phrynu alcohol gan y clwb
- nad oes unrhyw drefniadau i neb dderbyn budd ariannol yn sgil cyflenwi alcohol, heblaw am unrhyw fudd i’r clwb neu unrhyw unigolion yn anuniongyrchol yn sgil cyflenwi sy’n rhoi budd i redeg y clwb
Bydd cymdeithasau diwydiannol a darbodus a chymdeithasau cyfeillgar yn gymwys os yw’r alcohol sy’n cael ei brynu ar gyfer y clwb a’i gyflenwi ganddo yn cael ei wneud o dan reolaeth yr aelodau neu bwyllgor o aelodau.
Gellir ystyried sefydliadau lles glowyr lle bo hynny’n berthnasol hefyd. Sefydliad perthnasol yw un sy’n cael ei reoli gan bwyllgor neu fwrdd sy’n cynnwys o leiaf dwy ran o dair o bobl a benodwyd neu a ddyrchafwyd gan un neu ragor o weithredwyr trwyddedig o dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 a chan un neu ragor o sefydliadau sy’n cynrychioli gweithwyr pyllau glo. Gall y sefydliad gael ei reoli gan y pwyllgor neu’r bwrdd lle nad yw’n bosibl i’r bwrdd gynnwys yr aelodau a nodir uchod ond roedd o leiaf dwy ran o dair o’r aelodau yn arfer cael eu cyflogi neu maent yn cael eu cyflogi yn y diwydiant glo, a hefyd pobl a benodwyd gan Sefydliad Lles y Diwydiant Glo neu gorff â swyddogaethau tebyg o dan Ddeddf Lles y Glowyr 1952. Mewn unrhyw achos, mae’n rhaid i safle’r sefydliad gael ei ddal mewn ymddiriedolaeth fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Elusennau Hamdden 1958.