Crynodeb o’r drwydded
Mae Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 wedi cyflwyno trefn reoleiddio newydd ar gyfer y diwydiannau ailgylchu metel a datgymalu cerbydau. Bellach, mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gweithredu fel deliwr metel sgrap gael trwydded er mwyn parhau â’i fusnes.
Meini prawf cymhwysedd
Ystyrir bod rhywun yn ddeliwr metel sgrap os yw’r canlynol yn berthnasol:
- Mae’n gweithredu busnes sy’n golygu prynu neu werthu metel sgrap yn rhannol neu’n gyfan gwbl, a bod y metel hwnnw’n cael ei werthu yn y ffurf y cafodd ei brynu, neu
- Mae’n gweithredu busnes fel gweithredwr adfer cerbydau modur
- mae’n adfer rhannu o gerbydau modur y gellir eu hadfer er mwyn eu hailddefnyddio neu eu gwerthu ac mae’n gwerthu gweddill y cerbyd fel sgrap
- mae’n prynu cerbydau sydd wedi malu’n rhacs, gan eu hatgyweirio a’u hailwerthu
- mae’n prynu neu’n gwerthu cerbydau modur sy’n destun unrhyw un o’r gweithgareddau y cyfeiriwyd atynt yn (i) neu i)
- gweithgareddau sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn ymwneud â pharagraffau (b) ac (c)
Mae dau fath o drwydded:
- Trwydded safle
- Trwydded casglwr
Gall deliwr gael un math o drwydded yn unig mewn un ardal awdurdod lleol.
Crynodeb o’r rheoliadau
Nod y gwasanaeth yw sicrhau fod gennych y wybodaeth angenrheidiol i wneud cais dilys.