Wrth ystyried cais, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y canlynol, neu ar eu rhan:
- yr ymgeisydd
- prif swyddog yr heddlu yn yr ardal berthnasol
- yr awdurdod priodol – un ai’r awdurdod gorfodi neu awdurdod perthnasol yn yr ardal lle bydd y sw yn cael ei leoli
- corff llywodraethu unrhyw sefydliad cenedlaethol sy’n ymwneud â gweithrediad sŵau
- os nad yw’r sw yn ardal yr awdurdod lleol sydd â’r pŵer i ganiatáu trwydded, yr awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal berthnasol (ac eithrio awdurdod cynllunio’r sir) neu, os yw’r ardal honno yng Nghymru, yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y sw arfaethedig
- unrhyw un sy’n honni y byddai’r sw yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy’n byw yn yr ardal
- unrhyw un sy’n datgan y byddai’r sw yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch unrhyw un sy’n byw gerllaw’r sw
- unrhyw un arall y gallai ei sylwadau ddangos sail y pŵer neu ddyletswydd sydd gan yr awdurdod lleol i wrthod caniatáu trwydded
Cyn y gellir gwrthod neu ganiatáu trwydded, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unrhyw adroddiadau gan arolygwyr a luniwyd ar sail eu harchwiliad o’r sw, ac ymgynghori â’r ymgeisydd ynglŷn ag unrhyw amodau maent yn cynnig y dylid eu gosod ar y drwydded a gwneud trefniadau i gynnal archwiliad. Dylai’r awdurdod lleol roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd cyn cynnal yr archwiliad.
Ni fydd yr awdurdod lleol yn rhoi’r drwydded os bydd yn teimlo y byddai’r sw yn cael effaith niweidiol ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy’n byw gerllaw’r sw, neu’n cael effaith ddifrifol ar gadw cyfraith a threfn neu os nad yw’n fodlon y byddai mesurau cadwraeth priodol yn cael eu rhoi ar waith yn foddhaol.
Gellir gwrthod cais am y rhesymau canlynol hefyd:
- nid yw’r awdurdod lleol yn fodlon bod safonau llety, staffio neu reoli yn addas ar gyfer gofal a lles yr anifeiliaid neu ar gyfer cynnal y sw yn gywir
- mae’r ymgeisydd, neu os yw’r ymgeisydd yn gwmni corfforedig, y cwmni neu unrhyw un o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion tebyg eraill y cwmni, neu geidwad yn y sw, wedi cael eu heuogfarnu o unrhyw drosedd yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid
Bydd ceisiadau i adnewyddu trwydded yn cael eu hystyried ddim hwyrach na chwe mis cyn y daw’r drwydded gyfredol i ben, oni bai fod yr awdurdod lleol yn cytuno i ganiatáu cyfnod amser byrrach.
Gall yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl ymgynghori â’r awdurdod lleol, roi cyfarwyddyd i osod un neu ragor o amodau ar drwydded.
Gall yr awdurdod lleol hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol, oherwydd nifer bach yr anifeiliaid a gadwir y yn y sw neu’r nifer bach o’r mathau o anifeiliaid a gadwir yno, y dylid rhoi cyfarwyddyd nad oes angen trwydded.