Crynodeb o’r drwydded
Mae’n rhaid i chi gael trwydded amgylcheddol os ydych yn gweithredu cyfleuster wedi’i reoleiddio yng Nghymru.
Mae cyfleuster rheoleiddio yn cynnwys y canlynol:
- gosodiadau neu beiriannau symudol sy’n gwneud gweithgareddau a restrir
- gweithrediadau gwastraff
- peiriant gwastraff symudol
- gweithrediadau gwastraff mwyngloddio
Mae’r gweithgareddau a restrir yn cynnwys y canlynol:
- ynni (gweithgareddau llosgi tanwydd, neu weithgareddau troi tanwydd yn nwy neu’n hylif neu weithgareddau puro)
- metelau (gweithgynhyrchu a phrosesu metelau)
- mwynau (gweithgynhyrchu calch, sment, cerameg neu wydr)
- cemegion (gweithgynhyrchu cemegion, cemegion fferyllol neu ffrwydron, swmp storio cemegion)
- gwastraff (llosgi gwastraff, gweithredu safleoedd tirlenwi, adfer gwastraff)
- hydoddion (defnyddio hydoddion)
- eraill (gweithgynhyrchu papur, mwydion a bwrdd, trin cynnyrch pren, gorchuddio, trin tecstilau ac argraffu, gweithgynhyrchu teiars newydd, ffermio moch a dofednod mewn modd dwys)
Mae’r gweithgareddau a restrir wedi’u rhannu yn dri chategori: Rhan A(1), Rhan A(2) a Rhan B.Mae trwyddedau Rhan A ar gyfer gweithgareddau wedi’u rheoli sydd ag amrediad o effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys:
- allyriadau i’r aer, tir a dŵr
- effeithlonrwydd ynni
- lleihau gwastraff
- defnyddio deunyddiau crai
- sŵn, dirgryniad a gwres
- atal damweiniau
Mae trwyddedau Rhan B ar gyfer gweithgareddau wedi’u rheoli sy’n achosi allyriadau i’r aer.
Mae’r drwydded y mae ei hangen ar eich busnes yn dibynnu ar y prosesau penodol dan sylw a’r allyriadau sy’n deillio ohonynt.
Gallwch gael trwyddedau gan Asiantaeth yr Amgylchedd neu eich awdurdod lleol (y rheoleiddiwr) yn dibynnu ar ba gategori sy’n berthnasol i’ch busnes:
- Mae gosodiadau neu beiriannau symudol Rhan A(1) yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
- Mae gosodiadau neu beiriannau symudol Rhan A(2) a Rhan B yn cael eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol, ac eithrio gweithrediadau gwastraff a gynhelir mewn gosodiadau Rhan B a gaiff eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
- Mae gweithrediadau gwastraff neu beiriannau gwastraff symudol sy’n cael eu defnyddio mewn man arall heblaw am yn y gosodiad, neu gan beiriannau symudol Rhan A neu Rhan B, yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
- Mae gweithrediadau gwastraff mwyngloddio yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar ffurflen a ddarperir gan y rheoleiddiwr, neu ar-lein, a rhaid cynnwys gwybodaeth benodol a fydd yn amrywio yn dibynnu ar y gweithrediad.
Efallai y bydd ffi yn daladwy.
Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol, bydd y rheoleiddiwr yn cysylltu â’r ymgeisydd a bydd yn rhaid iddo gyflwyno’r wybodaeth hon neu tybir bod y cais wedi’i dynnu’n ôl.
Rhaid i’r cais gael ei gyflwyno gan weithredydd y cyfleuster wedi’i reoleiddio.
Yn achos gweithrediadau gwastraff, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi nes bod y caniatâd cynllunio gofynnol wedi’i roi yn gyntaf.