Crynodeb

Mae’n rhaid i chi gael trwydded gan yr awdurdod lleol i redeg sefydliad lletya cŵn neu gathod. Bydd nifer y cŵn a’r cathod y gellir eu lletya wedi’i nodi ar y drwydded ynghyd ag amodau penodol eraill.

Gall awdurdod lleol awdurdodi swyddog, milfeddyg neu ymarferydd i archwilio eiddo trwyddedig.

Bydd y drwydded yn ddilys rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr. Mae’n rhaid adnewyddu’r drwydded bob blwyddyn er mwyn parhau i weithredu fel Sefydliad Lletya Anifeiliaid, gan gynnwys lletya anifeiliaid yn eich cartref eich hun.

Cymhwysedd

Ni chaiff ymgeisydd fod wedi’i wahardd rhag gwneud un o’r canlynol ar adeg cyflwyno’r cais:

  • cadw sefydliad lletya anifeiliaid
  • cadw siop anifeiliaid anwes o dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • cadw anifeiliaid o dan Ddeddf Gwarchod Anifeiliaid (Diwygio) 1954
  • bod yn berchen ar anifeiliaid, eu cadw, eu masnachu neu eu cludo o dan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid

Crynodeb o’r rheoliadau 

Proses gwerthuso ceisiadau

Codir ffioedd am geisiadau a gellir rhoi amodau ar y drwydded.

Bydd y meini prawf canlynol yn cael eu hystyried wrth werthuso’r cais:

  • y bydd yr anifeilaidd yn cael eu cadw mewn llety addas bob amser. Mae llety addas yn ystyried adeiladwaith a maint y llety, nifer yr anifeiliaid fydd yn cael eu lletya yno, cyfleusterau ar gyfer ymarfer yr anifeiliaid, glendid a thymheredd, a darpariaethau goleuo ac awyru
  • y bydd bwyd, diod a deunyddiau gwasarn addas yn cael eu darparu ac y bydd yr anifeiliaid yn cael ymarfer corfforol a sylw rheolaidd
  • y bydd camau yn cael eu cymryd i atal a rheoli lledaeniad afiechydon ymhlith yr anifeiliaid a bod cyfleusterau arwahanu yn eu lle
  • y bydd darpariaeth briodol ar gyfer amddiffyn yr anifeiliaid os bydd tân neu unrhyw argyfyngau eraill
  • y bydd cofrestr yn cael ei chadw. Dylai’r gofrestr gynnwys disgrifiad o’r holl anifeiliaid a dderbynnir, dyddiad cyrraedd a gadael ac enw a chyfeiriad y perchennog. Dylai’r gofrestr fod ar gael i’w harchwilio ar unrhyw adeg gan swyddog yr awdurdod lleol, milfeddyg neu ymarferydd

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Cyfnod cwblhau targed

48 diwrnod calendr.

Ffioedd

Sefydliad sy’n darparu llety dros nos i anifeiliaid (gan gynnwys llety mewn cartref):

  • Hyd at 50 anifail: £273
  • Dros 51 anifail: £335

Gofal dydd (faint bynnag yw nifer yr anifeiliaid):

  • Gofal Dydd yn y Cartref: £273
  • Gofal Dydd Masnachol: £335

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.

E-bost: public_protection_service@wrexham.gov.uk 

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir rhoi trwydded iddo gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall unrhyw ddeilydd trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm â’i drwydded gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).