Crynodeb o’r drwydded
Os ydych yn dymuno cynnal digwyddiad ad-hoc yng Nghymru, mae’n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad digwyddiad dros dro i’r awdurdod trwyddedu lleol o leiaf ddeng diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Os yw’r eiddo lle rydych yn bwriadu cynnal y digwyddiad mewn ardal sy’n cael ei llywodraethu gan ddau neu fwy o awdurdodau lleol, mae’n rhaid i chi gyflwyno ceisiadau i bob un.
Oni bai eich bod yn cyflwyno cais yn electronig, mae’n rhaid i chi hefyd roi copi o’r hysbysiad i’r heddlu o leiaf ddeng diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.
Rhaid i chi fod yn 18 oed a throsodd i gyflwyno Hysbysiad digwyddiad dros dro ac ni allwch gyflwyno mwy na 5 Hysbysiad digwyddiad dros dro mewn blwyddyn. Os ydych yn ddeiliad trwydded bersonol, gallwch gyflwyno cais am hyd at 50 Hysbysiad digwyddiad dros dro mewn blwyddyn.
Ni chaniateir dim mwy na 499 o bobl yn y digwyddiad ar yr un pryd ar unrhyw adeg, ac ni ddylai bara mwy na 96 awr gan adael o leiaf 24 awr rhwng digwyddiadau.
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i’r gweithgaredd sy’n cael ei drwyddedu gael ei gynnal yn unol â’r manylion a roddir yn yr hysbysiad.
Rhaid i’r hysbysiad fod mewn fformat penodol a rhaid iddo gael ei gyflwyno gan rywun sydd dros 18 oed.
Dylai’r hysbysiad gynnwys y manylion canlynol:
- os bydd alcohol yn cael ei gyflenwi, rhaid cyflwyno datganiad yn cadarnhau mai un o amodau defnyddio’r eiddo yw bod y cyflenwadau yn cael eu darparu o dan awdurdod defnyddiwr yr eiddo
- datganiad yn ymwneud â materion penodol
- unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol
Y materion y cyfeirir atynt uchod yw:
- manylion y gweithgareddau trwyddedadwy
- cyfnod y digwyddiad
- yr amseroedd yn ystod y cyfnod hwnnw pan fydd y gweithgareddau yn cael eu cynnal
- uchafswm y bobl y bwriedir eu caniatáu ar yr eiddo
- unrhyw faterion eraill sy’n ofynnol