Ymgeisio am drwydded
Er mwyn gwneud cais am drwydded, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflenni perthnasol. Os oes ffurflen y gellir ei lawrlwytho, byddwch angen ei argraffu a’i bostio i un o’r cyfeiriadau canlynol.
Ceisiadau gyrrwr hurio preifat, gweithredwr hurio preifat a cherbyd hurio preifat
Bydd angen creu cyfrif gyda FyNghyfrif (os nad oes gennych un eisoes) er mwyn llenwi’r ffurflen isod.
Gwneud cais am drwydded cerbyd
Depo Trafnidiaeth
Ffordd yr Abaty
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
Wrecsam
LL13 9PW
Pob cais arall
Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR
Ffurflenni cais
Ffioedd Trwyddedu
Math | Ffi |
---|---|
Trwydded cerbyd hacni neu hurio preifat - newydd | £185 |
Trwydded cerbyd hacni neu hurio preifat - adnewyddu | £185 |
Hurio preifat (Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn) asesiad addasrwydd | £63 |
Colli apwyntiad prawf | £25 |
Trosglwyddo perchnogaeth | £40 |
Ac eithrio platiau, bracedi, platfformau ac arwyddion ffenestr. Gweler y prisiau ar gyfer y rhain isod.
Math | Ffi |
---|---|
Cerbyd hacni neu gerbydau hurio preifat - newydd 3 mlynedd | £314 |
Cerbyd hacni neu gerbydau hurio preifat - adnewyddu 3 mlynedd | £275 |
Nid yw’r ffi bellach yn cynnwys cost Prawf Gwybodaeth, gwiriadau DBS a DVLA.
Math | Ffi |
---|---|
1 i 9 cerbyd, 5 mlynedd - newydd | £550 |
10 neu fwy o gerbydau, 5 mlynedd - newydd | £1,573 |
1 i 9 cerbyd, 5 mlynedd - adnewyddu | £508 |
10 neu fwy o gerbydau, 5 mlynedd - adnewyddu | £1,540 |
Trosglwyddo | £31 |
Math | Ffi |
---|---|
Plât cerbyd | £9 |
Platfform | £9 |
Braced - clir | £10 |
Braced - du | £13 |
Arwydd ffenestr | £7 |
Bathodynnau gyrwyr | £4 |
Cerdyn adnabod gyrrwr | £5 |
Bathodyn poced gyrrwr | £1 |
Cerbyd hacni
Mae angen 1 plât, platfform a braced.
Hurio preifat
Mae angen 2 blât, platfformau, bracedi ac arwyddion ffenestr.
Gellir ailddefnyddio platfformau, bracedi ac arwyddion ffenestr pan fyddwch chi’n adnewyddu.
Cysylltwch â ni drwy
Ebost: taxiadmin@wrexham.gov.uk