Cynigiwn wasanaeth cynghori cyn gwneud cais i ymgeiswyr am Drwydded Eiddo neu Drwydded Eiddo Clwb yn unol â Deddf Trwyddedu 2003 neu amrywiadau mewn trwyddedi presennol.
Darperir gwasanaeth cynghori ar gyfer ceisiadau am y trwyddedau canlynol hefyd:
Nod y gwasanaeth yw sicrhau fod gennych y wybodaeth angenrheidiol i wneud cais dilys. Nid oes raid defnyddio’r gwasanaeth a gallwch geisio cyngor gan rywun arall (cyfreithiwr neu ymgynghorydd trwyddedu, er enghraifft) pe byddai’n well gennych wneud hynny.
Mae’r gwasanaeth yn darparu
- Cyngor a chyfarwyddyd ynglŷn â’r ffurflenni cais gan swyddog trwyddedu profiadol.
- Gorolwg o’r drefn ymgeisio - eglurhad o’r holl ofynion a chyfrifoldebau yn ystod y drefn ymgeisio.
- Eglurhad o’r cynllun safle ar gyfer y drwydded.
- Cyfarwyddyd ynglŷn â’r hysbysiad safle a’r hysbyseb papur newydd - gan gynnwys dangos enghreifftiau a chynghori ynghylch arddull a lleoliad eich hysbysiad.
- Gwasanaeth gwirio - gwirio dogfennau cyn ichi eu cyflwyno’n ffurfiol.
Nid yw’r gwasanaeth yn cynorthwyo â llenwi’r ffurflenni, cyflwyno’r hysbyseb papur newydd na gosod yr hysbysiad ac nid yw’n cynnwys ymweliadau â’r safle (codir tâl am ymweliadau).
Math o drwydded/digwyddiad | Tâl am y gwasanaeth cynghori |
---|---|
Deliwr Metel Sgrap | £120* |
Sefydliad Rhyw | £120* |
Gamblo | £120* |
Trwydded Eiddo (nifer o bobl)
|
|
Ymweliad â’r safle - ar gais yr ymgeisydd (i roi cyngor) | £100 (dim mwy nag awr) |
Cyngor am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro | £35 (hyd at 35 munud) |
Cyngor ynghylch Mân Amrywiad | £75 (hyd at 35 munud) |
Sut ddarperir cyngor
Darperir cyngor wyneb yn wyneb yn ein swyddfa ar Stryt y Lampint (Wrecsam, LL11 1AR) neu drwy alwad fideo ar Teams. Wedyn fe gewch chi gyfarwyddiadau mewn e-bost.
Gofyn am wasanaeth
Os hoffech chi ddefnyddio’r gwasanaeth cynghori, anfonwch e-bost at y tîm i licensingservice@wrexham.gov.uk a bydd Swyddog Trwyddedu’n cysylltu â chi i drafod eich cais.