Mae ein gweithwyr ieuenctid profiadol yn gweithio gyda phobl ifanc 11 – 25 oed yn eu cymunedau yn Wrecsam.

Yr hyn rydym yn ei wneud

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i bobl ifanc i gymdeithasu, mynegi eu hunain, a chael profiadau newydd y tu hwnt i’r ysgol. 

Trwy gynnal sesiynau gwaith ieuenctid mynediad agored rheolaidd a dibynadwy anelwn i roi synnwyr o ryddid a diogelwch i bobl ifanc. Rydym eisiau cefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol pobl ifanc, yn ogystal â’u hiechyd meddwl a’u lles. 

Fel tîm rydym yn:

  • Darparu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys teithiau a digwyddiadau arbennig.
  • Gwrando a sgwrsio â phobl ifanc am eu profiadau, gan roi cyngor ac arweiniad anffurfiol lle bo hynny’n bosibl a chyfeirio pobl at gymorth pellach lle bo angen.