Mae’r Diwrnod Chwarae yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ledled y DU i ddathlu hawliau plant i gael chwarae. Bydd yn digwydd bob mis Awst ar ddydd Mercher cyntaf y mis.
Diwrnod Chwarae yn Wrecsam
Bydd Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae cenedlaethol bob blwyddyn drwy gynnal digwyddiad chwarae mynediad agored mawr, sy’n rhad ac am ddim, rhwng 12pm a 4pm yng nghanol y dref ar Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf.
Dros y blynyddoedd, mae ein digwyddiadau Diwrnod Chwarae wedi dod yn enwog, gyda miloedd o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Mae’r digwyddiad yn cynnig rhywbeth i bawb sy’n mwynhau chwarae. Bydd llawer o wahanol grwpiau’n darparu cyfleoedd i blant gael chwarae, gan greu amgylchedd hwyliog iawn.
Byddwn yn dathlu Diwrnod Chwarae ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Awst. Mae ein dathliadau’n gysylltiedig ag ymgyrch y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, sydd â’r nod o hyrwyddo pwysigrwydd rhoi’r cyfle i blant gael chwarae.
Yn y gorffennol, cafwyd llithren ddŵr, pwll tywod enfawr, castell neidio, drysfa, crefftau, helfa drysor a llawer mwy yn y Diwrnod Chwarae. Rydym hefyd wedi cynnal Diwrnod Chwarae ar-lein, yn ogystal â gweithdai syrcas cymunedol llai.
I gymryd rhan cysylltwch â’r Tîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid.