Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru i gynhyrchu mapiau o rwydweithiau cerdded a beicio yn eu ardal leol, a adnabyddir fel Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol. (MRhTLl).
Mae MRhTLl yn cael eu creu a’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru ac maent yn cael eu dangos ar FapDataCymru Llywodraeth Cymru er mwyn defnydd rhwydd.
Dilynwch y linc isod er mwyn cael mynediad ar MRhTLl Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam ar FapDataCymru, ac yna gallwch sgrolio fel bo’r angen.
Mae’r safle Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwybodaeth ar sut i ddefnyddio’r sustem mapio ac yn darparu gwybodaeth gefndirol ar y mapiau.
Mae’r mapiau yn dangos dau brif beth:
- Llwybrau presennol - llwybrau cerdded a beicio sydd eisoes yn cyrraedd safon teithio llesol Llywodraeth Cymru ac yn medru cael eu defnyddio ar gyfer teithiau pob dydd
- Llwybrau’r dyfodol – llwybrau newydd y mae’r awdurdod lleol yn cynnig eu creu yn y dyfodol, yn ogystal â llwybrau presennol y mae bwriad i’w gwella er mwyn iddynt gyrraedd y safonau
Nodwch os gwelwch yn dda:
- Mae cerddwyr a rhedwyr oll yn ogystal â defnyddwyr sgwteri symudedd, cadeiriau olwyn, coetsis cadair a chymhorthion symudedd yn cael eu cynnwys yn y diffiniad o gerdded. Mae pob math o feiciau, yn cynnwys e-feiciau cyfreithiol, beiciau wedi eu haddasu neu feiciau ansafonol wedi eu cynnwys yn y diffiniad o feicio.
- Mae’r amserlin a ddangosir ar gyfer datblygu llwybrau’r dyfodol er mwyn rhoi syniad yn unig, ac mae’n bosib y bydd yr awdurdod yn eu newid
- Yn unol â’r gofyniadau cyfreithiol, mae’r gwaith o greu rhwydweithiau yn canolbwyntio ar yr aneddiadau mwyaf ym mhob awdurdod. Fodd bynnag, gall llwybrau y tu allan i’r ardaloedd hyn gael eu cynnwys lle mae potensial uchel ar gyfer defnydd dyddiol.
- Lle bo defnydd llwybr y dyfodol yn cael ei ddiffinio fel ‘cerdded a beicio’ nid yw hyn yn awgrymu y bydd y llwybr yn un a rennir. Bydd yr holl opsiynau ar gyfer darparu ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses datblygu llwybr.
- Lle bo llwybrau presennol pwysig nad ydynt yn bell o gyrraedd y safon angenrheidiol, bydd ‘datganiad’ byr ar gael yn egluro cyfyngiadau’r llwybr.
- Mae’r mapiau hefyd yn dangos cyfleusterau cysylltiedig a rhwystrau, yn cynnwys toiledau, mannau parcio beiciau, grisiau a chroesfannau ffordd.