Mae’r mwyafrif o ymwelwyr Owrtyn yn cyfyngu eu teithiau cerdded o fewn yr ardal ger yr afon.  Mae’r daith bleserus hon yn dilyn rhai llwybrau llai adnabyddus ar draws cefn gwlad ymdonnog, trwy weirgloddiau a choed.  Mae’r llwybr, fel pob un arall yn Owrtyn, wedi’u harwyddo’n llawn.  Dilynwch y saethau melyn i ddarganfod y gamfa neu’r giât nesaf.

Nid yw’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, coetsis babanod na phlant bach.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).

Oriel

Tynnwyd y lluniau hyn wrth gerdded ar hyd y llwybr hwn.

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.

Anfon ebost atom am y daith gerdded hon

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.