Tair taith gerdded yn dechrau o bentref prydferth Owrtyn. Mae pob un yn 5 milltir o hyd ac yn rhoi golygfa wahanol i’r cefn gwlad o gwmpas y pentref.
Teithiau Cerdded Owrtyn
Rhai blynyddoedd yn ôl, cynhyrchodd yr awdur lleol Raymond Roberts lyfryn o’r enw "The Overton Six" fel rhan o'i gyfres Clwydian Walks. Yna, cynhyrchodd yr awdur lleol Gordon Emery daith o Owrtyn yn ei lyfr "Family Walks in the North Wales Borderlands". Ym marn pobl Owrtyn, dyma oedd "Taith Gerdded 7".
Pan gafodd Ken Farrell trigolyn o Owrtyn gyfle i weithio gyda Groundwork Wrecsam a chynhyrchu tri chanllaw arall, roedd yn gwneud synnwyr iddynt alw’r rhain yn Deithiau 8, 9 a 10. Cyhoeddwyd y rhain rai blynyddoedd yn ôl fel taflenni A4 wedi eu plygu.
 chymorth pellach gan Ken, mae Tîm Hawliau Tramwy Cyngor Wrecsam, wedi eu diweddaru ar gyfer y wefan. Er bod y teithiau cerdded yr un fath, paratowyd mapiau lliw newydd a rhoddwyd cyfle i’r cyhoedd gyflwyno lluniau digidol a dynnwyd ar y teithiau cerdded. Mae rhai lluniau yn yr oriel eisoes, y rhan fwyaf a dynnwyd gan Ken.
Mae’r llyfryn Clwydian Walks ar gael gan y Canolfan Croeso.
Nid yw’r llyfr "Family Walks" yn cael ei argraffu bellach ond mae’r awdur wedi rhoi caniatâd i ni ailgyhoeddi’r teithiau cerdded. Felly os bydd rhywun am ystyried taith 7, gallwn anfon llungopi atoch! Anfonwch eich cyfeiriad post at rightsofway@wrexham.gov.uk
Bysiau
Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).
Anfonwch eich lluniau atom!
Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost. Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon. Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun. Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon. Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.
Ymwadiad
Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.
Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.
Anfon ebost atom am y daith gerdded hon
Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.