Croesfoel - Cadwgan - Clawdd Offa - Talwrn - Pentrebychan - Packsaddle (3 milltir).
Mae llawer i ddenu cerddwyr ar y llwybr hwn trwy gydol y flwyddyn; mae'n llawn hanes lleol a bywyd gwyllt. Bydd yn cymryd tua 1 ½ - 2 awr.
Parcio
Mae lle i nifer o geir yn y fynedfa i'r Amlosgfa (Grid. Cyf. SJ 302, 480).
Trafnidiaeth gyhoeddus
Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).
Oriel
Tynnwyd y lluniau hyn wrth gerdded ar hyd y llwybr hwn.
Anfonwch eich lluniau atom!
Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost. Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon. Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun. Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon. Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.
Ymwadiad
Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.
Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.
Anfon ebost atom am y daith gerdded hon
Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.