Rhaid i unrhyw un yn Wrecsam sy’n cyflawni’r gwaith canlynol o dyllu’r croen fod wedi cofrestru gyda’n Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd:
- tatŵio
- tyllu cosmetig
- aciwbigo
- electrolysis
- lliwio croen yn lled-barhaol
Rhaid i’r unigolyn sy’n cyflawni’r gwaith a’r eiddo fod wedi cofrestru ac wedi derbyn tystysgrif cofrestriad gan y gwasanaeth.
Mae’n anghyfreithlon tatŵio, tyllu cosmetig, aciwbigo, gwneud electrolysis neu liwio’r croen yn lled-barhaol oni bai fod y cofrestriad wedi ei gymeradwyo yn ffurfiol (mae cymeradwyaeth yn cynnwys ymweliad i’ch eiddo gan ein Swyddog Iechyd a Diogelwch).
Mae cofrestru yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 Rhan VIII (fel y diwygiwyd).