1. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ("y cyngor") yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i geir na’u cynnwys wedi'u parcio yn y maes parcio, oni bai fod colled neu ddifrod o'r fath yn cael ei achosi gan esgeulustod y cyngor.
  2. Nid yw’r cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw anaf personol i ddeiliad tocyn tymor, nac unrhyw deithiwr gyda deiliad y tocyn tymor neu unrhyw bersonau a awdurdodir gan y perchennog i fynd mewn i'r maes parcio mewn cysylltiad â defnyddio’r tocyn tymor, oni bai fod anaf o'r fath yn cael ei achosi gan esgeulustod y cyngor.
  3. Ni fydd deiliad y tocyn tymor yn achosi neu ganiatáu i’w g/cherbyd gael ei barcio mewn modd sy’n rhwystro mynediad, maes gwasanaeth neu fae, hydrant, is-orsaf neu unrhyw fynedfa neu allanfa o adeiladau sydd ger y Maes Parcio tra’u bod yn y maes parcio.
  4. Dylid adnewyddu’r tocyn tymor digidol a ddyrennir i’r deiliad ar-lein drwy ein e-siop, gyda’r ffi briodol am y cyfnod y bydd yn ddilys, hyd y dyddiad terfyn.
  5. Nid oes modd trosglwyddo tocynnau tymor digidol a ddyrannwyd i'r deiliad, ac os na fydd deiliad y tocyn tymor angen defnyddio’r maes parcio, dylent ei ganslo ar-lein.
  6. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i gau’r maes parcio y mae'r tocyn tymor digidol yn ymwneud ag ef ar unrhyw ddiwrnod pan fo angen y maes parcio ar gyfer unrhyw achlysur dinesig neu achlysur arbennig arall neu mewn achos o argyfwng cyhoeddus neu pan fo angen gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn y maes parcio ei hun neu i unrhyw adeiladau neu gyfleusterau cyfagos.
  7. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i derfynu'r hawl i barcio a roddir gan y tocyn tymor ac mewn achosion priodol bydd yn gwneud ad-daliad pro-rata am y tocyn tymor.
  8. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i gyhoeddi rhybudd talu cosb mewn unrhyw achos os: (1) Nad oes tocyn tymor dilys, (2) Nid yw’r cerbyd wedi’i barcio’n gywir, (3) Nid oedd gan y math o gerbyd hawl i barcio yno, (4) Roedd trelar y cerbyd wedi’i adael neu ei ddefnyddio yn y man parcio.
  9. Os oes unrhyw doriad arall o orchymyn (man parcio oddi ar y stryd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam perthnasol.