Pwy all gael taliadau uniongyrchol?
Gall y rhan fwyaf o bobl y mae asesiad gan y gwasanaethau cymdeithasol wedi dangos eu bod yn gymwys i gael gofal a chymorth gael taliad uniongyrchol.
Mae angen i ni fod yn fodlon eich bod am gael taliad uniongyrchol ac y gallwch ei reoli, gyda chefnogaeth gan ffrindiau, deulu, neu ein gwasanaeth cefnogi, neu heb y gefnogaeth hon.
Sut allaf ddefnyddio taliadau uniongyrchol?
Gallai sefydlu taliadau uniongyrchol eich helpu i:
- ddewis eich staff cefnogi eich hun yn hytrach na gorfod dibynnu ar bwy bynnag sy’n cael eu hanfon atoch
- trefnu bod eich gofal yn cael ei ddarparu ar wahanol amseroedd sy’n addas i beth rydych eisiau gwneud
- mynychu gweithgareddau amrywiol yn y gymuned
Os byddwch chi’n dewis cyflogi eich staff eich hun, gallwch wneud hyn naill ai trwy brynu eich gwasanaethau gan ddarparwr gofal, microfenter, neu drwy gyflogi eich cynorthwy-ydd (cynorthwywyr) personol eich hun.
Gall gofalwyr drefnu bod yr unigolyn maen nhw’n gofalu amdano yn aros adref gyda chefnogaeth taliad uniongyrchol hefyd, er mwyn iddynt gael seibiant.
Gallwch fodloni rhan o’ch anghenion asesedig, neu yr anghenion i gyd gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol. Mae’n rhaid i’r taliadau:
- gael eu rheoli’n ddiogel ac yn gyfrifol
- gyflawni’r canlyniadau a nodir yn eich cynllun gofal a chymorth (fel y cytunwyd gyda’ch gweithiwr cymdeithasol)
A fydd angen i mi dalu tuag at fy nghefnogaeth?
Caiff eich amgylchiadau ariannol eu hasesu i weld a fydd rhaid i chi dalu tuag at eich anghenion gofal. Mae hyn yr un fath ag ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol eraill.
Canllawiau ar drefnu eich cefnogaeth eich hun drwy daliadau uniongyrchol
Cysylltwch â ni am daliadau uniongyrchol
Gall ein Tîm Taliadau Uniongyrchol roi cyngor ac arweiniad ar unrhyw gam yn y broses. I gysylltu â ni, e-bostiwch directpayments@wrexham.gov.uk neu ffoniwch01978 298676.