Cardiau Rhagdaledig yw’r ffordd safonol rydym yn rhannu arian taliad uniongyrchol.
Trwy gofrestru ar gyfer y cyfrif banc ar-lein hwn, rydych yn cael cerdyn debyd Mastercard sydd â swm penodol arno a geir bob pedair wythnos. Mae’r swm rydych yn ei gael yn seiliedig ar y cynllun gofal a chymorth a gytunwyd arno gyda’ch gweithiwr cymdeithasol.
Caiff y cyfrif cerdyn rhagdaledig hwn ei ddarparu gennym ni (Cyngor Wrecsam) ac EML Payments Limited (Prepaid Financial Services gynt) - un o brif aelodau Mastercard.
Manteision defnyddio cerdyn rhagdaledig
- Nid oes rhaid i chi anfon cyfriflenni banc chwarterol, derbynebau neu daflenni incwm a gwariant atom (byddai angen i chi wneud hyn pe baech wedi dewis defnyddio cyfrif banc yn lle).
- Eich diweddariadau balans yn syth (gan ganiatáu i chi gyllidebu’n haws).
- Cewch wybod os nad oes digon o arian yn y cyfrif i dalu unrhyw Ddebyd Uniongyrchol ohono.
- Gallwn wneud taliadau ar unwaith i’ch cyfrif pan mae argyfyngau, (yn hytrach na gorfod aros 3-5 diwrnod i’r arian gyrraedd eich cyfrif).
Rheoli eich cyfrif cerdyn rhagdaledig
Er mwyn cael mynediad i’r porth am y tro cyntaf, bydd yn rhaid i chi sicrhau bod eich cerdyn wedi’i weithredu a bod gennych eich rhif PIN ar gyfer y cyfrif (gwiriwch y cyfarwyddiadau yn yr adran ‘Beth i’w wneud ar ôl i chi gael eich cerdyn rhagdaledig’, sydd i’w gweld ar y dudalen hon).
Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur neu ddyfais glyfar, gallwch reoli eich cyfrif yn defnyddio ffôn yn lle gydag un o’r dewisiadau canlynol:
Ffyrdd o dalu
Gallwch ddefnyddio’r cyfrif ar-lein fel unrhyw wasanaeth bancio ar-lein safonol arall.
Unwaith i chi ychwanegu person neu gwmni rydych yn dymuno eu talu, mae gennych y rhyddid i ddewis sut i’w talu yn y dyfodol. Gallwch osod eich microfenter neu ddarparwr gofal dewisol fel talai.
Gallwch dalu rhywun rydych eisiau talu iddynt drwy:
- osod archebion sefydlog wythnosol neu fisol
- gwneud taliadau fesul tro os yw’r gofal yn cael ei ddarparu ar sail untro.
Gallwch hefyd wneud taliadau:
- trwy sefydlu Debyd Uniongyrchol (dylech sicrhau bod digon o arian yn y cyfrif bob tro mae’r taliad yn ddyledus)
- wyneb yn wyneb gan ddefnyddio eich cerdyn fel y byddech chi’n ei wneud â’ch cerdyn banc eich hun i unrhyw gwmni sy’n derbyn Mastercard.
Mwy o fanylion am gardiau rhagdaledig
Cysylltwch â’n Tîm Taliadau Uniongyrchol
E-bost: directpayments@wrexham.gov.uk
Rhif ffôn: 01978 298676