Gallwch ddewis cyflogi eich cynorthwy-ydd personol eich hun (neu sawl cynorthwy-ydd personol) i ddarparu eich gofal a chymorth taliad uniongyrchol i chi.
Recriwtio cynorthwy-ydd personol
Gall ein Tîm Taliadau Uniongyrchol roi arweiniad i chi os oes arnoch angen unrhyw gymorth â’r broses recriwtio.
Beth ddylech chi ei wneud i ddod o hyd i ymgeiswyr addas
- Ysgrifennu swydd-ddisgrifiad a / neu fanylion y swydd yn cynnwys pa dasgau y disgwylir i’r cynorthwy-ydd personol eu cwblhau.
- Ysgrifennu hysbyseb swydd (ar y cam hwn yn y broses ni ddylid nodi pwy ydych chi, na lle’r ydych yn byw).
- Cyfweld ymgeiswyr posibl
- Ysgrifennu contract cyflogaeth sy’n cynnwys:
- Cyfradd gyflog
- Beth fydd rolau a chyfrifoldebau’r cynorthwy-ydd personol
- Beth fydd eich rolau a chyfrifoldebau chi fel cyflogwr
- Pa hyfforddiant fydd ei angen
- Trefniadau gwyliau blynyddol, absenoldeb salwch, ac absenoldeb heb ei gynllunio
- Cyfnodau rhybudd
Dylech allu gwneud cais am ddogfennau templed contract gan eich cwmni yswiriant y gellir eu diweddaru i weddu eich anghenion.
Sut allaf hysbysebu’r swydd?
Gallwch hysbysebu swydd wag ar wefan Gofalwn Cymru.
Yna, gallwch hyrwyddo’r swydd wag eich hun. Gallech wneud hyn drwy’r cyfryngau cymdeithasol (megis Facebook) a thrwy ysgolion neu ganolfannau cymunedol lleol.
Gall ein Tîm Taliadau Uniongyrchol eich helpu i osod yr hysbyseb swydd cychwynnol, a chyfrifo’r raddfa gyflog ar gyfer eich cynorthwy-ydd personol.
Beth i’w ystyried wrth drefnu cyfweliad
Rydym yn argymell:
- eich bod yn gofyn am eirdaon o swyddi blaenorol.
- nad ydych yn cyfweld unrhyw gynorthwywyr personol posib yn eich cartref, (gallech ddewis caffi neu ganolfan gymunedol leol yn lle).
- nad ydych yn cyfweld unrhyw un ar eich pen eich hun, os yn bosibl.
- eich bod yn paratoi rhestr o gwestiynau i’w gofyn
Trefnu gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)
Dylech wneud cais am wiriad uwch y GDG gyda gwiriad rhestr (rhestrau) a rwystrwyd cyn i unrhyw gynorthwy-ydd personol rydych yn ei gyflogi ddechrau yn y swydd.
Gall ein Tîm Taliadau Uniongyrchol roi arweiniad i chi os oes arnoch angen unrhyw gymorth â’r broses recriwtio anfonwch e-bost at y tîm: directpayments@wrexham.gov.uk.
Cyflogau
Os ydych chi’n cyflogi cynorthwy-ydd personol, dylech eu talu drwy ddefnyddio’r gwasanaeth cyflogau - hyd yn oed os ydynt yn ffrind agos neu’n aelod o’r teulu.