Bwriad y benthyciad hwn yw cefnogi adfywio Canol Tref Wrecsam, gan alluogi i gael eiddo allweddol, i'w hadnewyddu a'u hailddatblygu i gefnogi economi'r ardal.
Mae’r benthyciadau hyn wedi cael eu datblygu a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Cymhwysedd
Mae’r benthyciad hwn ar gyfer adeiladau a datblygiadau allweddol o fewn Canol Tref Wrecsam yn unig a nid yw ar gael yn unrhyw le arall yn y Bwrdeistref Sirol ar hyn o bryd.
Mae benthyciadau di-log hyd at £500,000 (50% o’r costau) ar gael i helpu gyda chael a gwella eiddo allweddol o fewn Canol Tref Wrecsam.
Gellir defnyddio benthyciadau tuag at brynu, adnewyddu, newid ac ailddatblygu eiddo, yn ddibynnol ar sicrhau caniatâd cynllunio a chaniatâd eraill angenrheidiol.
Sut mae’r benthyciad yn gweithio?
Mae’r benthyciad yn fenthyciad diogel gyda ffi ar yr eiddo am hyd bywyd y benthyciad. Bydd ffi cyntaf neu ail ffi ei angen gyda chyfanswm y benthyciadau sydd ddim yn mynd dros 80% o’r benthyciad uchel (LTV). Fel arfer, bydd y pridiant yn cael ei osod ar yr eiddo sy’n cael ei wella; fodd bynnag, efallai y bydd y pridiant yn cael ei warantu yn erbyn eiddo arall.
Ffioedd
Mae benthyciadau yn destun ffi cais hyd at £1,000, a mae ffioedd Cofrestrfa Tir a Thŷ Cwmnïau yn berthnasol (nid oes llog pellach yn cael ei roi ar y benthyciad ei hun). Bydd cadarnhad o’r ffioedd yn cael eu darparu ar adeg y cais. Mae hyn yn cynnwys holl gostau’r Cyngor wrth ddarparu'r benthyciad, gan gynnwys y Ffioedd Cyfreithiol a Ffioedd Prisio (os oes angen). Nid oes unrhyw ffi am ad-dalu’r ffioedd yn gynnar.
Cymorth Ychwanegol
Os ydych eisiau dod o hyd i gontractwr i wneud y gwaith, yna gallwn eich helpu gyda'n cynllun Houseproud (mae ffi bychan am ddefnyddio’r cynllun hwn).
Pa mor fuan y mae'n rhaid ad-dalu’r benthyciad?
Mae’r benthyciad hwn yn ad-daladwy dros gyfnod hyd at bum mlynedd (neu pan fydd yr eiddo yn cael ei werthu o fewn y cyfnod hwn).