Bwriad y benthyciad hwn yw helpu dod ag eiddo gwag yn ôl i gael eu defnyddio fel eiddo preswyl.

Mae'r benthyciadau hyn wedi eu datblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac yn cael eu hariannu drwy'r cynlluniau 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’ a 'Throi Tai'n Gartrefi’.

Cymhwysedd

Mae benthyciadau di-log o hyd at £25,000 ar gael i droi eiddo sydd wedi bod yn wag ers chwe mis neu fwy yn ôl yn gartrefi preswyl.

Efallai y bydd eiddo sydd wedi eu trawsnewid yn nifer o unedau hunangynhwysol yn gymwys i gael benthyciadau fesul uned (hyd at 10 uned yr ymgeisydd yng Nghanol Tref Wrecsam a chwe uned yr ymgeisydd mewn rhywle arall yn y Fwrdeistref Sirol).

Sut mae’r benthyciad yn gweithio?

Mae’r benthyciad yn fenthyciad sicr gyda phridiant ar yr eiddo am hyd fywyd y benthyciad. Bydd pridiant cyntaf neu ail bridiant ei angen gyda chyfanswm y benthyciadau sydd ddim yn mynd dros 80% o’r benthyciad uchel (LTV). Fel arfer, bydd y pridiant yn cael ei osod ar yr eiddo sy’n cael ei adnewyddu, fodd bynnag, efallai y bydd y pridiant yn cael ei warantu yn erbyn eiddo arall.

Ffioedd

Mae benthyciadau yn destun ffi cais hyd at £595, a mae ffioedd Cofrestrfa Tir a Thŷ Cwmnïau yn berthnasol (nid oes llog pellach yn cael ei roi ar y benthyciad ei hun). Bydd cadarnhad o’r ffioedd yn cael eu darparu ar adeg y cais. Mae hyn yn cynnwys holl gostau’r Cyngor wrth ddarparu'r benthyciad, gan gynnwys y Ffioedd Cyfreithiol a Ffioedd Prisio (os oes angen). Nid oes unrhyw ffi am ad-dalu’r ffioedd yn gynnar.

Cymorth Ychwanegol

Os ydych eisiau dod o hyd i gontractwr i wneud y gwaith, yna gallwn eich helpu gyda'n cynllun Houseproud (mae ffi fechan am ddefnyddio’r cynllun hwn).

Pa mor fuan y mae'n rhaid ad-dalu’r benthyciad?

Mae’r benthyciad hwn yn ad-daladwy dros gyfnod hyd at bum mlynedd (neu pan fydd yr eiddo yn cael ei werthu o fewn y cyfnod hwn).

Sut allaf i wneud cais?

Gallwch wneud cais drwy anfon e-bost at loans@wrexham.gov.uk.