Pan fydd farw rhywun dan yr amgylchiadau canlynol, cyfeirir yr achos at y crwner:
- Marwolaeth sydyn ac annisgwyl
- Marwolaeth mewn cyd-destun diwydiannol
- Marwolaeth ag achos anhysbys
- Amgylchiadau amheus ynghylch y farwolaeth
- Marwolaeth oherwydd damwain, trais, hunanladdiad, esgeulustod neu yn ystod / ar ôl llawdriniaeth.
Bydd y crwner yn ymchwilio i amgylchiadau’r farwolaeth ac yn gwneud un o’r pethau canlynol:
- Cyflwyno tystysgrif i’r Cofrestrydd fel y gellir cofrestru’r farwolaeth
- Trefnu archwiliad post-mortem ac wedi cwblhau hwnnw, cyflwyno tystysgrif o achos marwolaeth i’r Cofrestrydd fel y gellir cofrestru’r farwolaeth
- Trefnu archwiliad post-mortem a chynnal cwest. Yna bydd y crwner yn gwneud y trefniadau ar gyfer cofrestru’r farwolaeth wedi i’r cwest ddod i ben.
Gelwir archwiliad post-mortem yn awtopsi hefyd, ac mae’n ddull o archwilio corff wedi i rywun farw (i ganfod achos y farwolaeth).
Dolenni perthnasol
Dolenni perthnasol
Marwolaethau Beth sy’n digwydd pan mae rhywun yn marw a’r gefnogaeth sydd ar gael