Seremoni enwi
Mae seremoni enwi yn ffordd o groesawu a chyflwyno'ch plentyn i'r byd, drwy gyhoeddi'r enw neu ymrwymo i'r plentyn.
Efallai y byddwch chi’n dewis cael seremoni enwi er mwyn:
- Dathlu genedigaeth baban newydd-anedig a’i groesawu i’r teulu
- Uno brodyr a chwiorydd
- Teuluoedd yn dod at ei gilydd
- Croesawu plentyn wedi’i fabwysiadu
Bydd y seremoni’n cael ei chynnal gan swyddog seremonïau, a gellir ei chynnal mewn safle wedi’i gymeradwyo (yn cynnwys ein swyddfa gofrestru).
Cysylltwch â’n swyddfa gofrestru i gael rhagor o wybodaeth.
Adnewyddu addunedau
Mae'r seremoni hon ar gyfer cyplau sy'n dymuno dathlu eu haddunedau gwreiddiol i'w gilydd, eu blynyddoedd gyda'i gilydd ac i gadarnhau eu hymrwymiad i'w gilydd.
Mae cyplau yn aml yn cynnal y seremoni i ddathlu diwrnod arbennig, ond gall adnewyddu addunedau fod yn addas ar gyfer unrhyw gyplau ar unrhyw adeg o’u bywyd priodasol neu bartneriaeth sifil.
Weithiau, os yw cwpwl wedi cael eu seremoni wreiddiol dramor gydag ychydig o deulu a ffrindiau yn unig; maen nhw’n dewis cael y seremoni hon i ddathlu gyda grŵp mwy o bobl.
Gall seremoni adnewyddu addunedau gael ei chynnal yn ein swyddfa gofrestru neu mewn safle wedi’i gymeradwyo.
Cysylltwch â’n swyddfa gofrestru i gael rhagor o wybodaeth.