Priodas
Gall cyplau o’r un rhyw drosi partneriaeth sifil i briodas yng Nghymru neu Loegr. Os ydych chi’n ystyried trosi eich partneriaeth sifil gallwch chi anfon e-bost at ceremonies@wrexham.gov.uk i drafod hyn ymhellach.
Priodas sifil
Mae seremoni priodas sifil yn seremoni briodas anghrefyddol a gydnabyddir yn gyfreithiol.
Priodas grefyddol
Os ydych chi am briodi yn yr Eglwys yng Nghymru neu Loegr, neu mewn unrhyw eglwys neu adeilad crefyddol arall, bydd yn rhaid i chi gael seremoni briodas grefyddol.
Partneriaeth sifil
Mae partneriaeth sifil yn galluogi cyplau (o’r un rhyw ac o ryw wahanol) gael cydnabyddiaeth ffurfiol a chyfreithiol o’u perthynas.
Bydd gan gyplau sydd wedi’u huno gan bartneriaeth sifil statws cyfreithiol newydd a’r un hawliau â chyplau priod (ar gyfer pensiynau, treth a thollau marwolaeth).
Priodi dramor
Os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig sy’n priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil dramor, efallai y bydd angen rhai dogfennau gan lywodraeth y DU arnoch chi. Gallwch chi ddarganfod sut i gael y dogfennau sydd eu hangen arnoch chi drwy’r ddolen ganlynol.