Beth i’w wneud gyntaf pan mae rhywun yn marw
Marwolaethau disgwyliedig
Os bydd farw un o’ch anwyliaid gartref, ffoniwch y feddygfa lle’r oeddent wedi cofrestru (neu os yw’r Feddygfa ar gau, ffoniwch GIG Cymru ar 111). Wedyn, bydd y GIG yn trefnu bod rhywun yn dod i wirio’r farwolaeth ac yn siarad â’r Archwilydd Meddygol.
Marwolaethau annisgwyl / disymwth
Ffoniwch 999. Bydd y gweithredwr yn rhoi cyfarwyddiadau ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud. Bydd yr heddlu a chlinigwyr hyfforddedig yn dod i’ch tŷ ac yn cyflwyno adroddiad marwolaeth sydyn.
Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn marw
Unwaith y rhoddir gwybod am farwolaeth, bydd un o ddau beth yn digwydd, sef:
- Ystyriaeth gan yr Archwilydd Meddygol – sy’n craffu’n annibynnol ar yr holl farwolaethau nad yw’r crwner yn ymchwilio iddynt (gan amlygu unrhyw bryderon ynglŷn â’r farwolaeth fel bod modd i’r darparwr gofal neu’r crwner ymchwilio iddynt ymhellach os oes angen)
- Cyfeirio at y Crwner – sy’n ymchwilio i amgylchiadau rhai marwolaethau penodol y bernir eu bod yn annisgwyl neu’n anarferol.
Cewch wybod mwy am swyddogaethau’r Archwilydd Meddygol a’r Crwner a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl iddynt ei wneud yma:
Mae’r sefyllfaoedd canlynol yn egluro’r drefn os mai’r Archwilydd Meddygol yn unig sy’n ymdrin â’r farwolaeth:
Cofrestru marwolaeth
Pwy all gofrestru marwolaeth
- Perthynas neu bartner
- Rhywun a oedd yn bresennol yn ystod y farwolaeth
- Meddiannydd sefydliad cymunedol
- Yr unigolyn sy’n trefnu’r angladd os nad oes perthnasau ar gael
Unwaith y mae’r cofrestriad wedi’i wneud
Bydd gofyn ichi lofnodi’r cofnod. Mae’n bwysig cofnodi’r wybodaeth mor fanwl gywir â phosib gan y codir tâl am bob cais i gywiro’r cofrestriad gwreiddiol.
Bydd y Cofrestrydd yn anfon y ffurflen werdd (tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi) drwy e-bost at y trefnydd angladdau. Os yw’r farwolaeth wedi’i chyfeirio at y crwner a bod yr angladd yn amlosgiad, bydd y ffurflen gyfatebol yn cael ei hanfon gan y crwner at eich trefnydd angladdau.
Marwolaethau plant dan 18 oed a marw-anedig
Mae colli plentyn yn brofiad hynod o boenus. Rydym eisiau cynnig cymorth ymarferol a thrugarog i deuluoedd sy’n galaru.
- Ym Mynwentydd Wrecsam (Ffordd Rhiwabon a Ffordd Plas Acton), ni chodir tâl am gladdu rhywun iau na 18 oed
- Yn Amlosgfa Pentrebychan, ni chodir tâl am amlosgi rhywun iau na 18 oed
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cyfraniad o £500 at yr angladd a chostau cysylltiedig. Fe'i cynigir i'r person (y rhiant, y gofalwr neu'r gwarcheidwad fel arfer) sy'n cofrestru marwolaeth plenty. Mwy o wybodaeth: