Oherwydd y galw am y gwasanaeth, dim ond ar gyfer genedigaethau, priodasau neu farwolaethau sydd wedi digwydd ac wedi’u cofrestru yn ystod y 6 mis diwethaf y mae copïau o dystysgrifau ar gael. Bydd angen i unrhyw geisiadau sydd y tu hwnt i’r cyfnod o 6 mis gael eu gwneud yn uniongyrchol i’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Gallwch archebu copi o dystysgrif geni, priodas neu farwolaeth gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau o ran gwneud cais am gopïau o'r tystysgrifau, gallwch gysylltu â'n swyddfa gofrestru drwy anfon e-bost at registration@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 01978 298997.