Byddwch angen ymweld â’n swyddfa gofrestru yn bersonol er mwyn cofrestru genedigaeth, ffoniwch 01978 298997 i wneud apwyntiad.
Gallwch gofrestru genedigaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg (gofynnir am eich dewis iaith pan fyddwch chi’n cysylltu â ni).
Gwybodaeth sydd angen i chi ei darparu wrth gofrestru
- Lleoliad a dyddiad yr enedigaeth
- Enw, cyfenw a rhyw’r babi
- Enwau, cyfenwau a chyfeiriad y rhieni
- Lleoliadau a dyddiadau geni’r rhieni
- Dyddiad priodas neu bartneriaeth sifil y rhieni
- Swyddi’r rhieni
- Cyfenw’r fam cyn priodi
Dewch â ‘llyfr coch’ (cofnod iechyd personol plentyn) eich plentyn gyda chi er mwyn i’r cofrestrydd weld y rhif GIG.
Efallai y byddwch hefyd am ddod â dull adnabod, a all fod yn ddefnyddiol os oes gennych sillafiad anarferol o enwau (ond nid yw hyn yn ofynnol).
Rhagor o wybodaeth am gofrestru genedigaethau
Ailgofrestru eich plentyn
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y gallwch ailgofrestru genedigaeth a ffurflenni cais perthnasol ar gael trwy'r dolenni canlynol: