Os nad ydych wedi bod ar ein porth swyddi o’r blaen, bydd y canllaw isod yn egluro i chi sut i greu cyfrif a chwblhau ceisiadau.
Creu cyfrif defnyddiwr
Cam 1
Cliciwch ar “Cofrestru Nawr” a llenwch y manylion perthnasol.
Sylwch: Bydd arnoch chi angen cyfrif e-bost sy’n weithredol, a dim ond un cyfeiriad e-bost ddylech chi ei ddefnyddio y person, y cyfrif.
Cam 2
Darllenwch y telerau defnyddio a chytuno iddyn nhw, yna pwyswch “Cofrestru”.
Cam 3
Byddwn yn anfon cyfrinair dros dro i’r cyfeiriad e-bost y byddwch chi wedi’i roi i ni.
Yna, bydd angen i chi ddefnyddio’r manylion hyn i fewngofnodi a chwblhau'r broses gofrestru.
Bydd angen i chi roi cyfrinair newydd a’i gadarnhau.
Sylwch: Mae’r enw defnyddiwr a’r cyfrinair yn sensitif i briflythrennau a llythrennau bach, felly rhaid i chi eu teipio nhw’n union yr un fath wrth ailosod eich cyfrinair.
Os byddwch chi’n anghofio eich manylion cofrestru – cyfrinair/enw defnyddiwr
Os ydych chi wedi anghofio eich enw defnyddiwr neu’ch cyfrinair, gallwch ofyn i ni anfon enw defnyddiwr neu gyfrinair newydd i chi dros e-bost drwy glicio ar “Wedi anghofio manylion?”
Awgrymiadau defnyddiol wrth lenwi’r ffurflen gais
Dilynwch yr awgrymiadau isod er mwyn osgoi colli eich gwybodaeth, neu gyflwyno tudalennau anghyflawn.
- Cliciwch ar “Gweld y Cais mewn Fformat PDF” i weld rhannau o’r ffurflen gais. Mae’n syniad da gwneud hyn er mwyn deall pa fath o wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu cyn cychwyn ar eich cais.
- Cliciwch ar “Cadw” yn rheolaidd rhag i chi golli data. Os oes rhaid i chi gymryd seibiant wrth lenwi’r cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'ch gwaith er mwyn gallu mynd yn ôl ato wedyn.
- Cofiwch y bydd eich sesiwn ar y system yn dod i ben os na fyddwch chi wedi ei defnyddio am 20 munud.
- Rydym yn argymell eich bod yn cadw’ch cais ar ôl i chi gwblhau bob tudalen, cyn mynd ymlaen i'r dudalen nesaf, rhag i chi golli unrhyw ddata.
- Rhaid i chi lenwi pob maes sydd â seren (*) wrth ei ymyl. Allwch chi ddim mynd ymlaen i’r dudalen nesaf os ydych chi wedi gadael maes sydd â seren wrth ei ymyl yn wag.
- Os cliciwch chi ar y dewis i “Ychwanegu Manylion” ond nad ydych chi angen ychwanegu unrhyw fanylion pellach, rhaid i chi glicio “Dileu Manylion”.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n llenwi eich manylion i gyd ac yn eu gwirio, yn enwedig y cyfeiriadau e-bost, gan na all y system wirio’r rhain.
- Dim ond ar ôl cwblhau’ch cais yn llawn y dylech chi glicio “Cyflwyno”.
Byddem yn eich cynghori i gadw’r swydd-ddisgrifiad a manylion am yr unigolyn ar eich dyfais (e.e. gliniadur, llechen, ffôn symudol) eich hun, gan na fyddwch chi’n gallu cael gafael arnyn nhw ar ôl y dyddiad cau. Mae’r dogfennau hyn yn yr adran “Lawrlwythiadau” ar y dudalen manylion y swydd wag ar gyfer pob swydd.
Rhybudd – ni allwch newid eich cais ar ôl i chi ei gyflwyno.