Gallwch bleidleisio mewn etholiad mewn un o dair ffordd (bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio gyntaf).
Pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio
- Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, byddwch yn cael cerdyn pleidleisio tua mis cyn dyddiad yr etholiad.
- Ar ddiwrnod yr etholiad, ewch i’r orsaf bleidleisio a nodwyd ar eich cerdyn pleidleisio, unrhyw amser rhwng 7am a 10pm.
- Gofynnir i chi gadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad, neu gallwch gyflwyno eich cerdyn pleidleisio. Er nid ydych angen eich cerdyn pleidleisio, felly peidiwch â phoeni os ydych yn ei golli neu'n ei anghofio.
Hefyd gofynnir i chi ddangos ffurf wedi ei chymeradwyo o brawf adnabod â llun pan fo etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Os nad ydych yn sicr a yw’r ffurf o brawf adnabod â llun sydd gennych ar hyn o bryd yn cael ei dderbyn, mae yna restr lawn yma: Sut i bleidleisio: GOV.UK: Y prawf adnabod â llun y byddwch ei angen (dolen gyswllt allanol). Fe fydd ardal breifat ar gael pe byddech yn dewis i’ch prawf adnabod â llun gael ei weld yn breifat.
Fe all yr ardal hon fod yn ystafell ar wahân, neu yn ardal sydd wedi ei gwahanu gan sgrîn breifatrwydd, yn dibynnu ar yr orsaf bleidleisio.
Os nad oes gennych chi fath o brawf adnabod â llun sy’n eich galluogi chi i bleidleisio, fe allwch chi wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim. - Ar ôl cadarnhau eich manylion a dangos eich prawf adnabod â llun, fe gewch bapur pleidleisio. Rhowch 'X’ wrth ymyl enw’r ymgeisydd rydych yn dymuno pleidleisio amdano. Peidiwch â rhoi unrhyw farciau eraill ar y papur pleidleisio, neu efallai na fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif.
Pleidleisio Hygyrch
Dylai pleidleisio ac etholiadau fod yn hygyrch i bawb sydd â’r hawl cyfreithiol i bleidleisio, boed ganddynt anabledd neu beidio. Rydym ni’n gwybod y bydd rhai unigolion angen mwy o gefnogaeth nag eraill i ddefnyddio eu pleidlais - a bydd ein tîm etholiadau yn hapus i helpu.
Yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad fe fydd yna fwth pleidleisio lefel isel i bobl anabl a fydd yn addas i bobl mewn cadair olwyn ei ddefnyddio.
Bydd hysbysiadau print mawr o bapurau pleidleisio ar gael i’w gweld ym mhob gorsaf bleidleisio, gellir defnyddio’r rhain i gyfeirio atynt, ond mae’n rhaid i chi fwrw eich pleidlais ar bapur pleidleisio print safonol fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Fe fydd cymorth a elwir yn ddyfais gyffyrddadwy ar gael i alluogi pleidleiswyr dall neu rai sydd â nam ar eu golwg i bleidleisio heb gymorth. Gofynnwch i staff yn yr orsaf bleidleisio am y ddyfais hon. Byddwch hefyd yn gallu gofyn i’r Swyddog Llywyddu (y person sy’n gyfrifol am yr orsaf bleidleisio) i’ch cynorthwyo, maent wedi’u rhwymo’n gyfreithiol gan yr Angen am Gyfrinachedd, felly bydd eich pleidlais yn gyfrinachol.
Mae grip pensil ar gael i bleidleiswyr gyda nam deheurwydd i allu dal a defnyddio pensil yn annibynnol.
Bydd staff pleidleisio yn gwisgo bathodynnau er mwyn eu hadnabod yn hawdd. Mae hyn i helpu pleidleiswyr allu nodi’n hawdd pwy sy’n aelod o staff a gellir mynd atynt i gael cymorth.
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod, angen cymorth i gofrestru neu i bleidleisio, cysylltwch â’r Tîm Etholiadau drwy ffonio 01978 292020.
Mae United Response wedi creu papur pleidleisio ymarfer hawdd i’w ddarllen y gallwch ei weld drwy ei lawrlwytho Canllaw hawdd i’w ddarllen am bleidleisio mewn etholiadau lleol yng Nghymru (dolen allanol).
Pleidleisio trwy'r post
Gall unrhyw un sydd wedi cofrestru i bleidleisio ofyn am gael pleidleisio trwy'r post, yn hytrach na mynd i orsaf bleidleisio.
Nid oes angen prawf adnabod â llun arnoch i bleidleisio drwy’r post.
Pleidleisio drwy ddirprwy
Mae pleidlais drwy ddirprwy yn golygu eich bod yn dewis rhywun i bleidleisio ar eich rhan os nad ydych yn gallu pleidleisio eich hun.
Gall unrhyw un sydd wedi cofrestru i bleidleisio ofyn am bleidleisio drwy ddirprwy (ond bydd angen i chi roi rheswm pam na allwch gyrraedd gorsaf bleidleisio eich hun).
Os ydych yn dewis pleidleisio drwy ddirprwy, yna bydd rhaid i’r unigolyn yr ydych wedi ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan fynd â’u prawf adnabod â llun eu hunain. Os nad oes ganddynt brawf adnabod â llun yna ni fyddant yn cael y papur pleidleisio.