Dweud eich dweud ar wasanaethau’r cyngor
Yng Nghyngor Wrecsam rydym wedi ymrwymo i wrando ar bobl Wrecsam.
Mae cyfranogiad da yn golygu fod pawb yn ein cymuned yn gwybod y gallent ymuno â’r drafodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu dylunio a’u darparu. Mae hefyd yn golygu y gall pawb gael dweud eu dweud i helpu i siapio dyfodol Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Gobeithiwn wrth gymryd yr agwedd hon, y bydd dyfodol gwasanaethau yn Wrecsam yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl Wrecsam.
Yng Nghyngor Wrecsam rydym yn defnyddio amrywiaeth o ffyrdd i gael pobl i gymryd rhan wrth ddylunio a darparu ein gwasanaethau.
Eich Llais Wrecsam
Ewch i'n platfform cyfranogi, Eich Llais Wrecsam, i gymryd rhan mewn prosiectau ymgysylltu ac ymgynghori a helpu i lunio gwasanaethau'r cyngor.
Ar y llwyfan gallwch chi:
- ddilyn cynnydd y prosiectau cyfranogi sydd o ddiddordeb i chi a gweld y canlyniadau
- cael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a digwyddiadau newydd sy'n digwydd ar-lein a wyneb yn wyneb
Cyfranogiad y cyhoedd
Rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i ymgysylltu â democratiaeth leol a chymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau’r Cyngor.
Mwy o ffyrdd i gael dweud eich dweud
Mae llawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Gallwch hefyd wybod sut i gymryd rhan fel preswylydd cyngor (gan olygu os ydych yn byw mewn tŷ a ddarperir gan y cyngor)
Ein hymagwedd at gymryd rhan
I wybod mwy darllenwch ein Strategaeth Gyfranogi 2022-2027, sydd hefyd yn nodi’r gyfraith berthnasol yn ogystal â’n strategaethau a chynlluniau cysylltiedig eraill.