Gan adeiladu ar lwyddiant ein Strategaeth TGCh a Digidol 2020-23 ddechreuol, mae’r strategaeth hon wedi’i hadnewyddu yn amlinellu ein gweledigaeth a’n hamcanion strategol ar gyfer defnyddio pŵer technoleg dros y dair blynedd nesaf, 2024-27. Mae’n nodi pum thema allweddol a fydd yn datblygu dros y cyfnod hwn:
- Cynhwysiant Digidol a Sgiliau
- Seiberddiogelwch
- Dadansoddi Data
- Deallusrwydd Artiffisial
- Datblygu dinas ddeallus
Bydd y Strategaeth TGCh a Digidol yn tanategu pob rhan o Gynllun y Cyngor 2023-28 newydd wrth i ni barhau i ‘ddatblygu Cyngor digidol sy’n ein galluogi i foderneiddio’r ffordd yr ydym ni’n gweithio ac yn ymgysylltu â’n cwsmeriaid’. Bydd y ddogfen hon yn manylu ar y cyfeiriad a chynlluniau strategol lefel uchel ar gyfer ystod lawn darpariaeth y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a Digidol ar gyfer 2024-2027.