Strategaeth dair blynedd yw hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol a fydd yn helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd Wrecsam i fod yn hapus, iach a diogel ac i ddatblygu gwytnwch, hyder ac annibyniaeth sy’n angenrheidiol er mwyn cymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.

Os oes anawsterau’n codi, gwyddom mai’r ffordd orau o gael pethau’n ôl i drefn yw gwneud yn siŵr bod y cymorth cywir yn cael ei gynnig cyn gynted ag sy’n bosibl.

Mae’r strategaeth wedi cael ei datblygu gan ystod eang o sefydliadau partner sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o adrannau Cyngor Wrecsam, gwahanol ddisgyblaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Sefydliadau Trydydd Sector, yr Heddlu, Coleg Cambria a Phrifysgol Wrecsam, a’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Sefydlwyd Fframwaith Atal a Chymorth Cynnar yn gyntaf, a oedd yn nodi ein blaenoriaethau ar y cyd ar gyfer pob gwasanaeth, ac yna datblygwyd y strategaeth. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft ym mis Rhagfyr 2022 a rhoddodd llawer o bobl ifanc, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eu barn i ni. Fe wnaethom rai newidiadau o ganlyniad i hynny. 

Efallai eich bod yn meddwl tybed pam mae angen strategaeth?

Gwyddom na all ein strategaeth ddylanwadu ar bopeth sy’n effeithio ar deuluoedd, er enghraifft nid oes gan ein partneriaid lawer o reolaeth dros:  

  • Gostau cynyddol, yn enwedig costau ynni 
  • Swyddi a chyflogau 
  • Newid hinsawdd, rhyfeloedd ac ymfudo
  • Faint o arian sydd ar gael i helpu pob un o’r partneriaid i redeg ein gwasanaethau 

Ond bydd y strategaeth hon yn ein helpu i ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud fel:

  • Parhau i ganolbwyntio ar Atal a Chymorth Cynnar yn ogystal â’r ddarpariaeth arbenigol ddwys. 
  • Gofalu bod ein plant a’n teuluoedd yn y lle gorau i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir iddyn nhw 
  • Gofalu bod y math gorau o help yn cael ei gynnig mor gynnar ag sy’n bosibl os oes anawsterau’n codi
  • Lliniaru rhai o effeithiau trawma a thlodi 

Mae’r strategaeth yn ddatganiad cyhoeddus o’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i wella gyda’n gilydd dros y blynyddoedd nesaf. Bydd hefyd yn ein helpu i roi systemau mewn lle i weld a yw pethau’n gwella neu’n gwaethygu. 

Os hoffech gymryd mwy o ran neu os hoffech ddweud rhywbeth wrthym am y strategaeth hon, mae croeso i chi gysylltu â ni ar familiesfirst@wrexham.gov.uk.

Camau nesaf

Nid yw’r gwaith wedi gorffen wrth gwrs. Mae rhai o’n camau nesaf wedi’u nodi yn y strategaeth ei hun ac mae eraill yn cynnwys: 

  • Cynnwys plant, pobl ifanc a theuluoedd yn fwy brwd yn y dyfodol
  • Creu fersiwn hawdd ei darllen o’r strategaeth 
  • Gwneud data yn fwy hygyrch i bob partner 
  • Gwella ein trefniadau rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau partner 
  • Gwella’r ffordd yr ydym yn defnyddio ein hadnoddau i wneud y gorau o’n dyraniadau ariannol.